Neidio i'r prif gynnwy

Sut i reoli heintiau anadlol, gan gynnwys COVID-19 a'r ffliw mewn lleoliadau addysg arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diogelwch personol

  • Dylai staff sy'n gweithio'n agos gyda dysgwyr sy'n agored i niwed gael eu hyfforddi i ddefnyddio masgiau wyneb, gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol perthnasol arall. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydynt yn gofalu am ddysgwr sy'n defnyddio anadlydd.
  • Dylai staff wisgo masgiau wyneb wrth ofalu am ddysgwyr agored i niwed yr amheuir fod ganddynt COVID-19 neu’r ffliw. 
  • Ystyriwch a all unigolion â symptomau wisgo masgiau wyneb (os ydynt yn gallu).
  • Os oes achosion yn yr ysgol, ystyriwch a oes angen masgiau wyneb ar gyfer ymwelwyr ac ardaloedd eraill.

Presenoldeb

  • Dylai staff sydd â symptomau haint ar y llwybr anadlol neu sydd â thymheredd uchel aros gartref. Dylent roi gwybod i'w cyflogwr cyn gynted â phosibl.
  • Os yw staff yn teimlo'n well ac yn barod i ddychwelyd i'r gwaith, dylent drafod hyn gyda'u cyflogwr yn gyntaf, er mwyn gallu lliniaru risgiau.
  • Dylid cynghori dysgwyr sydd â symptomau haint ar y llwybr anadlol i aros gartref hefyd. Ni ddylent ddychwelyd i'r lleoliad nes nad ydynt yn teimlo'n sâl bellach ac nad oes ganddynt dymheredd uchel mwyach.

Brechiadau

  • Gall brechu leihau effaith heintiau anadlol acíwt. Mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn parhau i fanteisio ar y cynnig o frechiadau rhag COVID-19 a'r ffliw. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig. 
  • Gall brechu ein helpu i amddiffyn gwydnwch y system iechyd a gofal cymdeithasol. Drwy fanteisio ar y cynnig o frechiad, gallwch helpu i amddiffyn y system rhag cael ei llethu. Dysgwch ragor am ein haglen frechur COVID-19. 

Manylion cyswllt ar gyfer eich tîm diogelu iechyd rhanbarthol

Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

abb.healthprotection@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

bcu.healthprotectioncoordinationteam@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

ttpleadsrs@valeofglamorgan.gov.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

cwmtaf.pht@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

ask.hdd@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

healthprotection@powys.gov.uk

powys.healthprotection@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Sbu.neathpch@wales.nhs.uk

Rhagor o gyngor a chanllawiau