Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (“Rheoliadau 2023”) yn cael eu drafftio ar hyn o bryd, ac o'u gwneud, byddant yn darparu cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs addysg uwch dynodedig.

Mae Rheoliadau 2023, y disgwylir iddynt ddod i rym ym mis Chwefror 2023, yn berthnasol ar gyfer y blynyddoedd academaidd sy'n cychwyn ar 1 Awst 2023 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ac yn gwneud y newidiadau a nodir isod.

Pecyn ariannol

Mae’r Rheoliadau’n cael eu diwygio i newid swm y cymorth a roddir i fyfyrwyr israddedig a graddedig yn unol â pholisïau sefydledig. Lle codir y gefnogaeth â’r gyfradd chwyddiant a ragwelir, mae hyn yn unol â'r amcangyfrifon o chwyddiant  a ragwelir fel y'i mesurir gan y Mynegai Prisiau Manwerthu  ac Eithrio Llog ar Forgeisi (RPIX) yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2024 ac a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ym mis Mawrth 2022. Amlinellir y gwelliannau isod.

Cymorth Cynhaliaeth

  • cynyddu maint y benthyciad cynhaliaeth a fydd ar gael i'r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Awst 2018 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, er mwyn sicrhau bod y pecyn cynhaliaeth cyfan yn adlewyrchu'r Cyflog Byw Cenedlaethol a ragamcenir ar gyfer 2023. Bydd swm y cymorth cynhaliaeth yn codi 9.4 y cant rhwng 2022 i 2023 a 2023 i 2024. Cynyddir yr elfen ‘benthyciad’ o’r cymorth yn unol â hynny
  • cynyddu maint y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i'r myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn 1 Awst 2018 gan gyfradd y chwyddiant a ragamcenir sef 1.8 y cant

Grantiau cymorth eraill

  • cynyddu cyfanswm maint y Grant i Fyfyrwyr Anabl sydd ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau i astudio o gyfradd y chwyddiant a ragamcenir, sef 1.8 y cant
  • cynyddu maint y Grantiau i Ddibynyddion sydd ar gael i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau i astudio o gyfradd y chwyddiant a ragamcenir sef 1.8 y cant

Cymorth ffioedd cyrsiau llawn amser i israddegigion

  • gostwng swm y grant ffioedd dysgu a chynyddu maint y benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y myfyrwyr hynny a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Medi 2012 neu ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn 1 Awst 2018, o gyfradd y chwyddiant a ragamcenir sef 1.8 y cant, fel nad yw cyfanswm cyffredinol y cymorth sydd ar gael ar gyfer ffioedd dysgu yn newid

Graddedigion

  • cynyddu swm y cymorth sy’n daladwy i raddedigion ar gyrsiau Meistr a ddechreuodd eu cyrsiau ar 1 Awst 2023 neu ar ôl y dyddiad hwnnw o gyfradd y chwyddiant a ragamcenir sef 1.8 y cant drwy gynyddu maint y benthyciad
  • cynyddu swm y cymorth sydd ar gael i raddedigion ar gyrsiau doethurol sy’n dechrau eu cyrsiau ar 1 Awst 2023 neu ar ôl y dyddiad hwnnw o gyfradd y chwyddiant a ragamcenir sef 1.8 y cant

Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch hyn yn ar gael yn Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, mewn perthynas â chyhoeddi’r Memorandwm Ariannol.

Benthyciadau cymorth i fyfyrwyr doethurol ôl-raddedig

Mae'r polisi presennol yn galluogi myfyrwyr doethurol i dderbyn uchafswm o £10,609 yn unol â Rheoliad 14 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethur Ôl-raddedig) (Cymru) 2018. Nid yw'r swm hwn wedi'i gynyddu ers cyflwyno benthyciadau at radd ddoethur ôl-raddedig ym mlwyddyn academaidd 2018 i 2019 er bod y benthyciad ei hun yn cynyddu. Felly, mae gwelliant yn cael ei wneud i gynyddu uchafswm y benthyciad sy'n daladwy mewn blwyddyn academaidd i adlewyrchu 50 y cant o'r cyfanswm o fenthyciad sydd ar gael (£28,395 ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024).

Grantiau ar gyfer Dibynyddion: diystyru incwm

Yn y flwyddyn academaidd 2018 i 2019 adolygwyd y broses gyfrifo ar gyfer penderfynu hawl i Grantiau ar gyfer Dibynyddion a chynyddodd lefel yr incwm sy’n cael ei ddiystyru. Mae gwelliant yn cael ei wneud i gynyddu lefel yr incwm sy'n cael ei ddiystyru o’r gyfradd chwyddiant ragamcanol sef 1.8 y cant ar gyfer myfyrwyr newydd a pharhaus.

Grantiau ar gyfer Dibynyddion: bandiau dwyster ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Ar hyn o bryd, rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod yn astudio ar ddwyster o 50 y cant o gwrs cyfwerth ag amser llawn i fod yn gymwys ar gyfer Grantiau ar gyfer Dibynyddion. Mae'r swm y mae ganddynt hawl iddo yn cael ei benderfynu pro rata ar sail y dwyster hwn, fel a ganlyn:

  • hawl i 50 y cant o'r grant cyfwerth ag amser llawn lle mae dwyster astudio’r cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd o leiaf 50 y cant ond yn llai na 60 y cant o gwrs cyfwerth ag amser llawn
  • 60 y cant lle mae dwyster astudio’r cwrs o leiaf 60 y cant ond yn llai na 75 y cant
  • 75 y cant lle mae dwyster astudio’r cwrs o leiaf 75 y cant neu fwy

Gwneir diwygiadau a fydd yn galluogi myfyrwyr rhan-amser cymwys i gael hawl i Grant ar gyfer Dibynyddion wrth ddilyn cwrs ar ddwyster astudio o 25 y cant neu fwy. Bydd y bandiau canlynol yn berthnasol:

  • hawl i 25 y cant o'r grant cyfwerth ag amser llawn lle mae dwyster astudio’r cwrs ar gyfer y flwyddyn academaidd o leiaf 25 y cant ond yn llai na 30 y cant o gwrs cyfwerth ag amser llawn
  • 30 y cant lle mae dwyster astudio’r cwrs o leiaf 30 y cant ond yn llai na 40 y cant
  • 40 y cant lle mae dwyster astudio’r cwrs o leiaf 40 y cant ond yn llai na 50 y cant

Aelodau teuluoedd pobl eraill sydd wedi ymgartrefu yn y DU

Mae gwelliant yn cael ei wneud i sicrhau cymhared rhwng aelodau teuluoedd dinasyddion y DU a rhai pobl eraill sydd wedi ymsefydlu yn y DU. Bydd myfyrwyr sydd yn dechrau cwrs ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn gymwys ar gyfer statws ffioedd cartref, y cap ffioedd dysgu, benthyciadau ffioedd dysgu, a chefnogaeth ôl-raddedig.

Myfyrwyr o Diriogaethau Tramor Prydeinig a Thiriogaethau Tramor yr UE

Gwneir gwelliant i ddarparu ar gyfer personau sydd â statws preswylydd sefydlog yn y DU, a'r rhai a gwmpesir gan y gwahanol Gytundebau Ymadael, sy'n dod o Diriogaethau Tramor Prydeinig penodedig i astudio yng Nghymru, i fod yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu ar gyfer israddedigion a chymorth i ôl-raddedigion o flwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae hyn yn sicrhau cymharedd rhwng pobl sydd wedi ymsefydlu yn y tiriogaethau hyn a'r rhai sy'n preswylio mewn mannau eraill.

Mae gwelliant hefyd yn cael ei wneud i ymestyn y ddarpariaeth hon i bobl â hawliau gwarchodedig a fydd yn gallu cyfrif cyfnodau o breswylio mewn Tiriogaethau Tramor yr UE penodedig fel rhan o'r cyfnod cymhwyso tair blynedd arferol ar gyfer bod yn gymwys i gael cymorth ffioedd dysgu a chefnogaeth ôl-raddedig. Mae hyn yn sicrhau cymharedd â phobl sydd wedi ymsefydlu sy'n dod o Diriogaethau Tramor Prydeinig penodedig.