Menter i annog cydweithio economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon ac o’i hamgylch (Cymru Ystwyth)
Mae’r fenter ar agor i geisiadau nawr, ond mae pwyslais ar gyflwyno hawliadau am arian sydd i’w wario erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i Gymru ar lwyfan y byd ac yn ymrwymo i ‘gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE’. Mae cydweithio â gwledydd a rhanbarthau eraill yn ychwanegu gwerth at ddatblygu economaidd yng Nghymru drwy alluogi partneriaid i gynyddu gweithgarwch, sicrhau màs critigol a chodi proffil. Mae cydweithio yn rhoi cyfle i gyfnewid syniadau ac arferion gorau, i ymestyn arloesedd a chystadleurwydd ac i fynd i'r afael â materion allweddol sy'n croesi ffiniau. Rydym am weld “Cymru Ystwyth” sy'n edrych tuag allan at bartneriaid presennol a phartneriaid y dyfodol yn y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol, i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rennir a mynd i'r afael â'n heriau cyffredin.
Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn llywio ac yn dylanwadu ar gamau gweithredu sydd â'r nod o gynyddu cydweithio economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon ac o'i hamgylch. Mae'n darparu cyfeiriad strategol yn y tymor byr a llwybr at nodau tymor canolig. Mae'r Fframwaith yn anffurfiol, yn hyblyg a bydd yn esblygu, ond bydd yn ategu'r holl bolisïau, strategaethau a rhaglenni perthnasol, gan gynnwys Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, Iwerddon-Cymru: Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd [link] a rhaglenni Interreg 2021-2027.
Ystyrir mai ardal Môr Iwerddon yw’r ardal ddaearyddol a ddiffinnir gan Fôr Iwerddon, y Môr Celtaidd a Sianel y Gogledd. Mae gwledydd a rhanbarthau cyfagos yn dylanwadu ar yr ardal hon hefyd h.y. Cymru, Iwerddon, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gogledd-orllewin Lloegr, De-orllewin Lloegr ac Ynys Manaw. Bydd y ddaearyddiaeth economaidd sydd ohoni a chysylltiadau dwyochrog yn dylanwadu ar y gweithgarwch hefyd. Budd economaidd i Gymru yw sail y fenter ariannu hon, ond nid oes cyfyngiad ar y partneriaid posibl sydd am sicrhau'r budd hwnnw.
Mae Fframwaith Môr Iwerddon yn nodi tri maes eang a fydd yn cael blaenoriaeth wrth fynd ati i gydweithio: Economi Las Gynaliadwy, Cryfderau Arloesi a Chymunedau a Diwylliant – gweler y canllaw i’r Fframwaith i gael rhagor o fanylion.
Y Fenter
Mae'r ddogfen hon yn annog ceisiadau gan sefydliadau sy’n gweithredu yng Nghymru sydd â'r potensial i gynyddu cydweithio economaidd ar draws ardal Môr Iwerddon ac o’i hamgylch. Mae’n canolbwyntio ar wariant a hawlir erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
Bydd cais cryf yn adlewyrchu’r cyd-destun strategol a nodir uchod ac yn:
- Cefnogi ac adeiladu cysylltiadau strategol ar draws ardal Môr Iwerddon, gan adlewyrchu nodau Fframwaith Môr Iwerddon.
- Creu amrywiaeth o gyfleoedd mewn maes arwyddocaol ar gyfer economi Cymru.
- Mynd i'r afael yn uniongyrchol ag un neu fwy o feysydd blaenoriaeth Fframwaith Môr Iwerddon.
- Cynnwys sefydliad neu rwydwaith pwysig a pherthnasol y tu allan i Gymru, gan gynnwys manteisio ar eu hadnoddau lle bo’n bosibl.
- Trosglwyddo gwybodaeth ryngwladol i Gymru i effeithio ar flaenoriaethau polisi Cymru.
- Adeiladu ar y gweithgarwch presennol sydd â’r potensial i dyfu.
- Bod â llwybr clir i ddod â chyllid arall i mewn, neu lwybr arall at weithgarwch economaidd parhaus a chynaliadwy.
Rhaid i bob cais ddangos hyfywedd a gwerth am arian.
Nid oes trothwyon grant sefydlog, ond yn seiliedig ar brofiad, mae’r canlynol yn ganllaw:
- Ar gyfer prosiectau bach, fel teithio, ymgysylltu a gwasanaeth ymgynghori, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £5,000 fesul cais gael ei ystyried yn rhesymol.
- Ar gyfer prosiectau sy’n fwy strategol, fel ffurfio rhwydweithiau, astudiaethau dichonoldeb a phrosiectau peilot sy’n golygu defnydd sylweddol o ddeunyddiau ac amser staff, dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y gallai hyd at £40,000 fod yn rhesymol. Yng nghyd-destun y fenter hon, disgwylir i brosiectau strategol adlewyrchu adeiladu capasiti yn y gynghrair o bartneriaid sy’n barod i ymuno yn y gweithgarwch mewn un neu fwy o'r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Fframwaith Môr Iwerddon.
Gall y fenter hon gefnogi hyd at 100% o'r costau cymwys lle mae cyfiawnhad dros hynny, ond mae Fframwaith Môr Iwerddon yn annog manteisio ar gyllid arall lle bynnag y bo modd.
Mae'r gyllideb a ddyrennir ar gyfer y fenter hon hyd at £150,000 ond byddwn yn ystyried ymrwymiadau eraill a thanwariant adeg y penderfyniad. Os bydd y galw'n fwy na'r arian sydd ar gael, defnyddir ‘rhestr wrth gefn’ a chaiff ymgeiswyr eu hannog i nodi a ellir cynnal eu gweithgarwch ar ôl mis Mawrth 2024.
Costau Cymwys
Oni nodir yn benodol yn yr alwad hon, mae rheolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth.
Gall y gwariant gynnwys gweithgarwch partneriaid nad ydynt o Gymru, ar yr amod bod y partner yng Nghymru yn ysgwyddo’r costau a hawlir a’u bod yn cynrychioli gwerth ychwanegol. Fodd bynnag, rydym yn eich cynghori i gysylltu â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses o ddatblygu eich cais er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio.
Rhaid gwario'r grant a’i hawlio cyn 31 Mawrth 2024. Lle y rhagwelir gweithgarwch blynyddol neu hirdymor yn ddiweddarach, gellir rhoi'r gweithgaredd perthnasol ar y ‘rhestr wrth gefn’ i'w ystyried yn y dyfodol ond nid oes unrhyw sicrwydd o gymorth.
Er mwyn osgoi canlyniadau anfwriadol a diffyg hyblygrwydd, nid ydym yn nodi rhestr gaeedig o gostau cymwys, ond rhaid i gostau fod yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo, gweithredu a lledaenu'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwy'r broses ymgeisio a’r cynnig grant ysgrifenedig. Rhaid iddynt fod yn rhesymol, yn wiriadwy a chael eu hysgwyddo gan yr ymgeisydd. Edrychwch ar reolau a gweithdrefnau Cymru Ystwyth i gael rhagor o fanylion. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn canolbwyntio ar eitemau gwariant uwch gyda thrywydd tystiolaeth cryf er mwyn symleiddio’r broses hawlio.
Nid yw'r costau yr eir iddynt cyn y dyddiad cymeradwyo yn gymwys oni bai bod Tîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn cadarnhau fel arall yn ysgrifenedig.
Cyflwyno ceisiadau
Rydym yn agored i geisiadau nawr. Cynghorir ymgeiswyr i drafod eu cynigion gyda Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru cyn eu cyflwyno, e-bostiwch: CymruYstwyth@llyw.cymru.
Bydd ceisiadau'n cael eu barnu yn unol â nodau'r fenter hon a bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniad terfynol. Efallai y byddwn yn gofyn am gyngor arbenigol a chyngor gan gydweithwyr polisi perthnasol yng Nghymru neu mewn gwledydd/rhanbarthau perthnasol. Ymdrinnir â cheisiadau cymwys ar sail ‘y cyntaf i'r felin’ ond prin fydd y cyfle i gael eglurhad pellach a gall ceisiadau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gryf fel y'u diffinnir yn y ddogfen hon gael eu rhoi ar y ‘rhestr wrth gefn’ i ganiatáu cyfleoedd ar gyfer ceisiadau eraill. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mabwysiadu dull portffolio er mwyn rheoli cydbwysedd risg ac ystod y canlyniadau; gallai hyn effeithio ar y gyllideb sydd ar gael a'r math o brosiectau a gefnogir. Felly, anogir ymgeiswyr i drafod â Thîm Cymru Ystwyth Llywodraeth Cymru yn gynnar yn y broses i sicrhau bod cryfderau eu cynnig yn cael eu deall.