Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor, arweiniad a gweminarau i helpu i liniaru digwyddiadau tywydd a phrisiau cynyddol porthiant, tanwydd a gwrtaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae newid hinsawdd a digwyddiadau daearwleidyddol wedi arwain at ddigwyddiadau tywydd mwy aml sy'n effeithio ar ffermio, megis glawiad parhaus neu sychder, a chostau mewnbwn amaethyddol cyfnewidiol.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth am gymorth a chyngor sydd ar gael i ffermwyr i helpu gyda'r materion hyn.

Tywydd gwlyb a sychder

Gall effeithiau glaw trwm fod yn aflonyddgar iawn ar draws pob math o ffermydd, yn niweidio cnydau, erydu pridd a chreu risg ychwanegol i iechyd anifeiliaid. Yn yr un modd, mae amodau sychder yn effeithio ar dwf cnydau a lles anifeiliaid a gallant roi straen sylweddol ar ffermydd.

Mae'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) wedi cyhoeddi nifer o erthyglau ar reoli da byw a grawnfwydydd yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

Tywydd gwlyb

Tudalen tywydd

Arferion rheoli pori tywydd gwlyb

Rheoli pori cylchdro yn ystod tywydd gwlyb

Rheoli mamogiaid mewn tywydd gwlyb

Sut i feithrin grawnfwydydd wedi'u difrodi gan dywydd gwlyb

Cefnogaeth i ffermwyr

Sychder

Sychder

Lleihau straen gwres

Adolygu eich cynllun rheoli sychder

Sychder – Gwybodaeth am y farchnad

Atal a rheoli tân

Drought-busters ar gyfer diogelwch bwyd anifeiliaid haf

Costau mewnbwn

Mae digwyddiadau tywydd gwael yn aml yn arwain at gynyddu costau bwyd. Ochr yn ochr â chostau ynni a gwrtaith, mae'r rhain hefyd yn destun digwyddiadau daearwleidyddol.

Rydym yn monitro'r costau hyn ac yn eu trafod gyda llywodraethau eraill y DU drwy’r Grŵp Monitro Marchnad Amaeth y DU (ar gov.uk)

Mae adnoddau ar gael gan AHDBCyswllt Ffermio. Maen nhw’n cynnwys cyngor, arweiniad a gweminarau i helpu i liniaru prisiau uchel. 

Rhanddirymiadau

Os ydych yn derbyn cyllid drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol neu unrhyw gynllun grantiau gwledig arall, cysylltwch â Thaliadau Gwledig Cymru cyn gynted ag y gallwch, os ydych yn credu gall y tywydd eithafol:

  • Golygu efallai na fyddwch yn gallu bodloni gofynion eich cytundeb, gan gynnwys Trawsgydymffurfio
  • Newid yr ardal sy'n gymwys ar gyfer cynllun
  • Effeithio ar eich adroddiadau o symudiadau da byw

Rhowch fanylion am y tywydd, gan gynnwys y dyddiad a'r amser. Byddwch yn gallu trafod eich opsiynau neu ofyn am randdirymiad. Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos. 

Grantiau gwledig

Rydym yn rhedeg cynlluniau grantiau cyfalaf o dro i dro ar gyfer daliadau fferm. Gellir dod o hyd i'w manylion ar y dudalen grantiau a thaliadau gwledig. Mae gan bob cynllun ffenestr ymgeisio benodol. Gellir dod o hyd i ddyddiadau ar gyfer cynlluniau ar Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.

Mae ffenestri cais ar gael ar gyfer y Grantiau Bach – yr Amgylchedd a Chynlluniau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. 

Mae Grantiau Bach – yr Amgylchedd yn rhaglen o waith cyfalaf. Mae hi’n ar gael i fusnesau ffermio ledled Cymru i gynnal prosiectau a fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion tirwedd traddodiadol a darparu cysylltiad rhwng cynefinoedd pryfed peillio. 

Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau, a all arwain at welliannau ym mherfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i:

  • lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr
  • addasu i newid yn yr hinsawdd ac adeiladu mwy o wytnwch i fusnesau fferm
  • Gwella ansawdd dŵr a lleihau perygl llifogydd
  • cyfrannu tuag at wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth frodorol Cymru

Porthiant

Gwrtaith

Cymorth pellach

Galla:

Mae Farmwell Cymru yn ganolfan wybodaeth ar-lein. Gallwch gael cyngor ar gydnerthedd personol a busnes i chi a'ch teulu.