Neidio i'r prif gynnwy

Prif nod y prosiect yw i rhoi cymorth i gyn-gamddefnyddwyr sylweddau ledled Cymru er mwyn iddynt gael mynediad at gyflogaeth neu dysgu pellach.

Cleientiaid

  • Rhwng misoedd Hydref 2009 a Medi 2013, cofrestrwyd 9,627 o gleientiaid fel cyfranogwyr o’r prosiect.
  • Yn seiliedig ar y rhai a gofrestrwyd hyd at fis Mehefin 2013, roedd ychydig dros ddwy ran o dair ohonynt yn wrywaidd, roedd dros dri chwarter rhwng 25 a 54, a’r mwyafrif helaeth yn Ewropeaidd Gwyn.
  • Dim ond 30% oedd â chymwysterau hyd at Lefel 2 NQF (hynny yw Lefel TGAU) neu uwch ac nid oedd unrhyw gymwysterau o gwbl gan o leiaf draean ohonynt.
  • Roedd dipyn dros draean wedi bod yn ddibynnol ar sylweddau, (alcohol gan amlaf, gyda heroin yn dilyn), am y rhan fwyaf o’u bywyd fel oedolion, ac roedd y rhan fwyaf o’r rhain wedi bod yn ddi-waith am gyfnod tebyg o amser.

Y llwybr a ddilynwyd gan gyfranogwyr ar ôl cofrestru

Y patrwm mwyaf cyffredin oedd eu bod nhw yn gyntaf wedi cymryd un neu fwy o gyrsiau heb eu hachredu (a oedd o gymorth fel cyflwyniad tyner i’r gwasanaeth, yn ogystal â chaniatáu’r darparwr i honni ‘deilliant cadarnhaol arall’) yn dilyn gan.

  • dyraniad i weithiwr allweddol a/neu fentor cymheiriaid i asesu’r achos a gwneud cynllun achos
  • byddai rhai’n cymryd rhagor, gan ddibynnu ar eu anghenion a’u nodau, byddai rhai’n cymryd rhagor o gyrsiau i wella’u sgiliau cymdeithasol neu lefelau hyder, byddai rhai’n dechrau hyfforddi ar gyfer cymhwyster perthnasol i’w maes cyflogaeth arfaethedig, a byddai eraill yn dechrau gwirfoddoli neu brofiad gwaith, a byddai eraill yn dechrau gwneud cais am swyddi
  • byddai lleiafrif hefyd yn dechrau hyfforddi fel mentor cymheiriaid.

Canlyniadau

  • Cyflawnodd y darparwyr bob un bron o’r holl dargedau pedair blynedd a osodwyd ar gyfer y prosiect, a oedd wedi eu diwygio tuag i lawr yn 2010 yng ngoleuni amgylchiadau a newidiwyd (yn enwedig y dirwasgiad economaidd a dyfodiad y Rhaglen Waith).
  • Roedd 10% o gleientiaid wedi dechrau cyflogaeth; 9% wedi cael mynediad at ddysgu pellach; 14% wedi ennill cymhwyster; a 65% wedi cyflawni o leiaf un ‘deilliant cadarnhaol arall’. Gan amlaf, cwblhau cwrs neu wirfoddoli (nid yw’r ffigurau uchod yn annibynnol ar ei gilydd).

Caiff saith argymhelliad eu gwneud ar sail y canfyddiadau.

Adroddiadau

Gwerthusiad o fentora cymheiriaid Cymru Gronfa Gymdeithasol Ewrop , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad o fentora cymheiriaid Cymru Gronfa Gymdeithasol Ewrop: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 195 KB

PDF
195 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.