Mae Rhent Gyntaf yn rhoi ateb dros dro newydd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu bod yn berchen tŷ ond a allai fforddio mwy na rhent cymdeithasol, o leiaf yn y tymor byr.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Fe'i sefydlwyd gyntaf fel cynnyrch tai newydd wedi'i ariannu gan grant cyfalaf Llywodraeth Cymru yn 2011.
Wedi cynnal y fenter am bedair mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r astudiaeth hon i ddarparu gwerthusiad o Rhent Gyntaf ac i edrych yn ehangach ar y farchnad rhentu yng Nghymru, a'r defnydd neu'r diffyg defnydd o gynnyrch rhent dros dro eraill.
Bu i arolygon ar-lein a chyfweliadau lled-strwythurol mewn 8 astudiaeth achos gasglu safbwyntiau'r Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai am Rhent Gyntaf.
Cafwyd data hefyd o amrywiol ffynonellau gweinyddol i roi dealltwriaeth o'r farchnad rhentu dros dro yng Nghymru.
