Neidio i'r prif gynnwy

Mae Techniquest a Techniquest Glyndŵr yn elusennau addysgiadol sy’n gweithio fel endidau ar wahân ac mewn partneriaeth er mwyn darparu gweithgareddau i ysgolion ar y safle ac gweithgareddau allgymorth.

Mae'r adroddiad hwn yn darparu canfyddiadau o gwerthusiad o wasanaethau ysgolion Techniquest (TQ) a Techniquest Glyndŵr (TQG) i ysgolion sy'n cael eu cyllido o dan gyllid grant craidd Llywodraeth Cymru.

Prif bwyntiau

  • Mae’r ddwy ganolfan wedi cyflawni eu nodau a’u hamcanion i raddau helaeth, er nad ydynt wedi cyflawni’n gyson yn erbyn targedau’r grant craidd bob tro.
  • Yn gyffredinol mae TQ a TQG yn uchel eu parch ymhlith rhanddeiliaid ac athrawon fel ei gilydd; mae cydnabyddiaeth eang i’r brand TQ ac mae’n cael ei gysylltu ag ansawdd uchel.
  • Mae athrawon yn gweld bod gwasanaethau TQ a TQG yn berthnasol i feysydd cwricwlwm STEM ac yn eu hatgyfnerthu, maent yn diwallu eu hanghenion yn y mwyafrif o achosion, ac o ran y disgyblion sydd yn cyfranogi mae gwasanaethau priodol yn arwain at draweffeithiau y gellir eu hadnabod.
  • Er bod y defnydd presennol o gyllid Llywodraeth Cymru i dalu am ddigwyddiadau gyda disgyblion cynradd yn bennaf yn briodol o ystyried yr hyn a wyddom ynghylch manteision ymgysylltu gyda disgyblion yn gynnar, mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod angen ymwneud mwy gydag ysgolion uwchradd.
  • Y tu hwnt i’r gofynion ar y ddwy ganolfan o ran brandio a rheoli enw da yn bennaf, sydd yn cael eu gweithredu drwy’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhyngddynt, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y cydweithio dwy ffordd rhwng TQ a TQG yn gyfyngedig ond yn gwella. Mae’n dod i’r casgliad y gallai mwy o weithio ar y cyd ddod â nifer o fanteision.
  • Mae TQ a TQG fel ei gilydd wedi adeiladu rhwydweithiau partneriaid  cryf gyda darparwyr STEM eraill a phrifysgolion, ac maent wedi bod yn llwyddiannus yn denu cyllid ychwanegol o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae adeiladu rhwydweithiau o’r fath mewn ymgais i sicrhau ffynonellau nawdd newydd a chaniatáu darpariaeth ar y cyd yn arwydd o ddull gweithredu pwysig tuag at y dyfodol, ac mae cyfleoedd ar gael i ddatblygu hyn ymhellach.

Argymhellion

  • Mae’r adroddiad yn cyflwyno tri deg un o argymhellion ar draws amrywiaeth o faterion. Mae deuddeg o’r rhain yn uniongyrchol berthnasol i Lywodraeth Cymru.

Adroddiadau

Gwerthusiad o wasanaethau ysgol Techniquest a Techniquest Glyndŵr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Corke

Rhif ffôn: 0300 025 1138

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.