Datblygwyd y prosiect i annog newid moddol o geir i’r rheilffordd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd hyn drwy ddarparu’r seilwaith rheilffyrdd canlynol:
- platfform ychwanegol (a elwir yn blatfform troi’n ôl) yng ngorsaf Caerffili ar goridor Caerdydd i’r Rhymni
- platfform (troi’n ôl) ychwanegol yng ngorsaf Pontypridd ar goridorau Caerdydd i Gwm Taf.
Cynlluniwyd yr isadeiledd ychwanegol i hwyluso rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd ychwanegol ar goridorau Rhymni a Chwm Taf, rhwng Caerffili, Pontypridd a Chaerdydd. Mae platfform troi’n ôl yn caniatáu i drenau derfynu yng Nghaerffili a Phontypridd oddi ar y brif reilffordd, gan ganiatáu llwybrau parhaus ar gyfer trenau trwodd ar y prif reilffyrdd. Roedd y gwaith hefyd wedi ei gynllunio i wella’r ddwy orsaf fel cyfleusterau rhyngfoddol.
Roedd cwmpas y Gwerthusiad Terfynol yn cynnwys gwerthusiad proses o ymagweddau gweithredu a rheoli a fabwysiadwyd ar y prosiect. Ni wnaed gwerthusiad effaith ôl-weithredol oherwydd diffyg gwasanaethau ychwanegol i orsafoedd Caerffili a Phontypridd.
