Gwerthusiad broses, canlyniadau ac economeg o’r gwasanaeth mewn dwy ardal braenaru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin Dewis Fferyllfa
Mae pedair fferyllfa ar bymtheg yn darparu'r gwasanaeth braenaru yn ardal Betsi Cadwaladr; yn eu plith mae cymysgedd o fferyllfeydd unigol, rhai mewn siopau sy’n gwerthu nifer o bethau eraill ac mewn archfarchnadoedd. Mae pob un o'r 13 fferyllfa yng Nghwm Cynon yn ardal Cwm Taf yn gysylltiedig â’r gwasanaeth hwn; mae'r rhain yn gymysgedd o fferyllfeydd unigol a rhai mewn canolfannau sy’n gwerthu popeth (gan gynnwys un fferyllfa sydd ag wyth siop yn gweithredu'r gwasanaeth) a chadwyni mwy o faint.
Bydd y gwerthusiad hefyd yn nodi'r costau a'r buddion sy'n gysylltiedig â'r broses o gyflwyno'r gwasanaeth cenedlaethol.
