Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhaglen yn darparu cymorth i athrawon ac amrywiaeth o adnoddau dysgu ac adolygu, cyngor ar yrfaoedd ac adnoddau ar y we ar gyfer myfyrwyr.

Dechreuwyd gwerthuso’r cynllun peilot ym mis Medi 2012, gyda’r nod o ddeall effaith y Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach ar yr ardal beilot, ac edrych pa mor effeithiol y cafodd ei chyflwyno.

Mae’r adroddiad terfynol yn cyflwyno fersiwn wedi’i diweddaru o’r gwaith dadansoddi data a gyflwynwyd yn yr adroddiad dros dro, gyda ffigurau newydd a gyhoeddwyd yn 2014.

Canfyddiadau allweddol

  • Ers i’r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach gael ei lansio, mae cynnydd wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio mathemateg bellach ac yn ennill cymhwyster Safon Uwch yn y pwnc ledled Cymru, ynghyd â mwy o gynnydd yn nifer y myfyrwyr a’u cyraeddiadau yn yr ardal beilot o gymharu â gweddill Cymru.
  • Gwelwyd cynnydd llawer yn fwy mewn ceisiadau gan fechgyn na chan ferched.
  • Mae cynnydd hefyd wedi bod yn nifer yr ysgolion sy’n cynnig mathemateg bellach yn yr ardal beilot a darpariaeth barhaus o fathemateg bellach yn y pedwar coleg addysg bellach.

Mae’r adroddiad yn gwneud un ar ddeg o argymhellion ar wahân, gan gynnwys:

  • parhau i gynnig y cymorth llawn a ddarperir drwy’r peilot, heb flaenoriaethau neu roi terfyn ar unrhyw elfennau unigol
  • ymgysylltu â chonsortia rhanbarthol wrth hyrwyddo mathemateg bellach
  • targedu myfyrwyr benywaidd
  • gwella deunyddiau cymorth ar gyfer myfyrwyr ac athrawon.

Adroddiadau

Gwerthuso Cynllun Peilot y Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 686 KB

PDF
686 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sara James

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.