Mae'r adroddiad yn adolygu'r opsiynau ar gyfer creu 'meingefn poblogaeth' 100% er mwyn hwyluso dadansoddi ar gyfer is-grwpiau poblogaeth manwl.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Rhoddir sylw arbennig i'r materion sy'n ymwneud â chynnwys data'r Cyfrifiad mewn astudiaeth o'r fath. Mae'r adroddiad hefyd yn archwilio i ba raddau y gallai'r defnydd o setiau data arolygon cymdeithasol 'cyfoethocach' gael eu cysylltu â meingefn poblogaeth o'r fath er mwyn creu efelychiad o boblogaeth ffug Cymru. Mae llawer o ffocws yr adroddiad ar Astudiaethau Hydredol y Cyfrifiad, sydd ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynrychioli sampl o 1% o'r Cyfrifiad sy'n cael ei olrhain dros lawer o Gyfrifiadau.
