Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r galw am sgiliau yng Nghymru nid yn unig yn isel o'i gymharu â Lloegr, ond mae hefyd yn gostwng.

Mae'r canlynol wedi'i seilio ar dystiolaeth o arferion gorau rhyngwladol:

  • ni ellir gadael newidiadau ym maes datblygu gweithlu yn gyfan gwbl i'r farchnad; yn hytrach, mae'n rhaid i'r farchnad gael ei 'ffurfio' i ryw raddau er mwyn darparu swyddi da i weithwyr a gwneud elw i gwmnïau
  • mae'n rhaid cael gweledigaeth glir ynghylch lle mae Cymru am fod erbyn 2010 a'i seilio ar strategaeth gydlynol a chamau gweithredu clir er mwyn cynyddu'r galw am weithwyr medrus a symud busnesau i fyny'r gadwyn o ran eu gwerth
  • mae'r strategaethau mwyaf llwyddiannus ar gyfer ffurfio sgiliau yn dibynnu ar y prif randdeiliaid yn rhannu dealltwriaeth gyffredin ac ymrwymiad tuag at y strategaeth gyffredinol ar gyfer datblygu gweithlu gan ei chefnogi gyda dangosyddion perfformiad
  • dylid cysylltu'r weledigaeth gyda blaenoriaethau clir ar gyfer datblygu economaidd wedi'u seilio, fel y mae'r adroddiad hwn yn dadlau, ar nodi clystyrau busnes neu rwydweithiau
  • mae angen cyflwyno mecanweithiau a rhaglenni perthnasol sy'n angenrheidiol i ddiweddaru sgiliau'r gweithlu presennol yn rheolaidd er mwyn diwallu anghenion yr economi yn y dyfodol
  • dylai Cymru symud oddi wrth ddull o 'gyflawni rhaglenni' a symud tuag at ddull mwy holistig trwy wneud newidiadau yng ngwaith y sefydliadau er mwyn gwella perfformiad busnesau

Dyma nodau'r gwaith ymchwil:

  • datblygu argymhellion er mwyn gwella arferion datblygu'r gweithlu yng Nghymru gan ystyried argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr
  • nodi meysydd eraill lle mae'n bosibl y bydd angen gwneud rhagor o ymchwil.

Adroddiadau

Arfer gorau rhyngwladol ar ddatblygu gweithlu , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 136 KB

PDF
Saesneg yn unig
136 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.