Neidio i'r prif gynnwy

Mae cael gwybodaeth a dadansoddiad gadarn yn bwysig ar gyfer datblygu polisi seiliedig ar dystiolaeth.

Lluniwyd Cipolwg Dysgu er mwyn rhoi golwg gyffredinol gytbwys, gadarn a hygyrch ar feysydd pwnc a materion allweddol sy’n berthnasol i ddatblygu dysg yng Nghymru.

Pwrpas y papurau yma oedd adolygu’r ymchwil a’r ystadegau sy’n bodoli’n barod mewn tri maes thematig fel sail i asesu polisi ar ddatblygu dysg a sgiliau yng Nghymru. Y tri maes thematig oedd demograffeg Cymru, y ffenomen o segurdod economaidd yng Nghymru, a materion sgiliau sylfaenol yng Nghymru.

Mae pob Cipolwg Dysgu yn cynnwys papur technegol sy’n gosod allan rhai ystadegau allweddol a dadansoddiad. Dyma brif ran y ddogfen. Fodd bynnag, mae’r Cipolwg yn dechrau gyda chrynodeb cyffredinol a thrafodaeth ar ganfyddiadau sy’n ddigon hunan-gynhaliol i gael ei ddarllen ar ei ben ei hun gan y rheiny nad ydynt eisiau ystyried y canfyddiadau mwy manwl y mae’n tynnu ohono.

Adroddiadau

Cipolwg Dysgu - Gwrywod 16 i 24 oed , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.