Nod y darn byr hwn o waith ymchwil oedd deall mwy am y sefyllfa bresennol o ran defnydd y 'Cofrestrau Tai Hygyrch' a’r 'Cofrestrau Tai Cyffredin' mewn awdurdodau lleol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r arolwg a gynhaliwyd fel rhan o'r ymchwil hon.
Rhestr aros a rennir rhwng yr Awdurdod Lleol a Chymdeithasau Tai yn yr un ardal yw Cofrestr Tai Cyffredin. Mae'n galluogi pobl sy'n chwilio am dai cymdeithasol i wneud un cais yn unig yn hytrach na sawl cais mewn un ardal.
System a rhestr aros sy'n paru'r tai cymdeithasol a addaswyd sydd ar gael â phobl ag anableddau sydd ar y rhestr aros am dai yw Cofrestr Tai Hygyrch.
