Nod yr ymchwil hon oedd archwilio'r berthynas rhwng credoau crefyddol a rhoi organau, gyda phwyslais arbennig ar gydsyniad tybiedig.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Archwiliwyd safbwynt pob crefydd, cyn adolygu ymchwil ryngwladol sy'n ymchwilio i'r berthynas rhwng crefydd a rhoi organau ar draws gwahanol systemau cydsynio. Hefyd cyflwynir canfyddiadau o arolwg bach a gynhaliwyd o Gristnogion yng Nghymru. Nod yr arolwg oedd mynd i'r afael â bwlch yn yr wybodaeth am y gwaith ymgysylltu sy’n digwydd gyda grwpiau ffydd a chymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.
