Neidio i'r prif gynnwy

Dyfeisiwyd Rhentu i Berchnogi - Cymru ar gyfer rhai nad oes ganddynt arian blaendal, neu na fedrant ar hyn o bryd gael morgais gan fenthycwyr traddodiadol.

Nod y gwaith ymchwil hwn oedd darparu tystiolaeth ansoddol i brofi rhagdybiaethau a materion yn ymwneud â phrynu cartrefi yng Nghymru a chyfrannu at ddatblygu’r cynlluniau Rhentu i Berchnogi - Cymru a Rhanberchnogaeth - Cymru gan Lywodraeth Cymru. Dyfeisiwyd y ddau gynllun i helpu unigolion / teuluoedd na fedrant ar hyn o bryd brynu eu cartrefi eu hunain.

Mae’r dyheu parhaus am fod yn berchen ar gartref yn hytrach na rhentu’n hirdymor wedi’i adlewyrchu yn y polisïau a ddatblygwyd gan y llywodraeth i gael mwy o bobl i fod mewn sefyllfa i brynu eu cartref eu hunain. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu nifer o gynlluniau i alluogi hyn. 

Yn 2014, lansiwyd Cymorth i Brynu Cymru. Addasiad oedd hwn o’r cynllun yn dwyn yr un enw a lansiwyd yn Lloegr, ac roedd wedi’i anelu at brynwyr tro cyntaf a rhai a brynodd eisoes. O dan y cynllun, mae darpar brynwyr yn cyfrannu isafswm blaendal o 5% gyda Llywodraeth Cymru yna’n cynnig benthyciad rhannu ecwiti o hyd at 20% o bris yr eiddo, a’r darpar brynwyr yna’n gorfod dod o hyd i uchafswm benthyciad o 75% gan fenthycwr cymeradwy. 

O dan y brand Cymorth i Brynu traws DU, mae cyfrif ISA hefyd ar gael i roi hwb i gynilion unigolion er mwyn gallu cynilo blaendal, a hefyd ar gael i rai sy’n byw yng Nghymru. 

Mae cynlluniau eraill sydd ar gael yng Nghymru’n cynnwys Prynu Cartref, cynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu pobl, drwy ddarparu benthyciad ecwiti, i brynu eu cartref presennol ar y farchnad agored. Gellir ad-dalu’r benthyciad ecwiti (rhwng 30% i 50% o'r pris prynu) ar unrhyw adeg ond rhaid ei dalu’n ôl pan werthir yr eiddo.

Adroddiadau

Rhentu i Berchnogi - Cymru: ymchwil gyda thenantiaid y sector rhentu preifat ar gyfer datblygu’r cynllun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Joanne Coates

Rhif ffôn: 0300 025 5540

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.