Neidio i'r prif gynnwy

Nifer o unedau tai sydd yn berchen neu’n rhannol berchen ac yn cael eu rheoli gan holl landlordiaid cymdeithasol ar 31 Mawrth 2018.

Mae hyn yn cynnwys y 11 awdurdod lleol sydd yn cadw stoc a holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.  Bydd yn cynnwys tai cymdeithasol a thai eraill nad ydynt yn rhai cymdeithasol.

Stoc

  • Parhaodd cynnydd bychan (1%) yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd 230,044 o unedau tai cymdeithasol ar 31 o Fawrth 2018 o gymharu gyda 228,805(r) flwyddyn yn gynt.
  • O’r 230,044 o unedau tai cymdeithasol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd berchen ar 62% ac awdurdodau lleol oedd berchen ar y 38% arall.
  • Ar Mawrth 31 roedd yna 15,296 o unedau tai eraill nad oedd yn dai cymdeithasol ac oedd yn berchen neu yn rhannol berchen i Landlordiaid Cymdeithasol yng Nghymru. O’r rhain, roedd 99% yn eiddo i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

(r) 2016-17 data sydd wedi ei diwygiedig  ers iddi gael ei gyhoeddi o’r blaen.

Rhent

  • Y rhent wythnosol cyfartalog a osodwyd gan awdurdodau lleol ar 1 Ebrill 2018 ar gyfer 2018-19 ac ar gyfer tai hunangynhwysol (yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, llety gwarchod, llety a gefnogir a thai gofal ychwanegol) oedd £89.35 yr wythnos. Mae hyn yn gynnydd o 6% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Y rhent wythnosol cyfartalog cyfatebol ar gyfer stoc landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar gyfer 2018-19 oedd £91.16. Roedd hyn yn gynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol.
  • Mae’r bwlch rhwng rhent wythnosol cyfartalog awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cau mewn blynyddoedd diweddar.

Adroddiadau

Stoc tai landlordiaid cymdeithasol a rhent, ar 31 Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 924 KB

PDF
Saesneg yn unig
924 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.