Cynhaliwyd yr ymchwil ar ffurf sesiynau trafod estynedig mewn tri lleoliad yng Nghymru ac roeddent yn cynnwys cymysgedd eang o'r cyhoedd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Digwyddodd hyn rhwng Awst a Hydref 2012 a cheisiwyd barn a sylwadau ynglŷn â chreu dealltwriaeth rhwng pobl Cymru, Llywodraeth Cymru a'r GIG.
Amcanion yr ymchwil oedd egluro agweddau tuag at y gwasanaethau a ddarperir gan y GIG a'r ffordd y defnyddir gwasanaethau o'r fath gan y cyhoedd ac archwilio sut y gellid gwella’r berthynas rhwng y GIG, y llywodraeth a'r cyhoedd er mwyn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf o ran darparu gwasanaeth. Roedd hyn yn rhan o fenter i ymgysylltu â'r cyhoedd yn fwy uniongyrchol o ran creu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
