Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AC - Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ein strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn pennu ein gweledigaeth i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Rydym am sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial llawn a byw bywyd iach, ffyniannus a llawn.  

Er mwyn ein helpu i fwrw ymlaen â'r weledigaeth honno, cyhoeddais gynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar fis Rhagfyr diwethaf. Mae'r cynllun yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae gweithlu'r blynyddoedd cynnar yn ei wneud wrth gefnogi ein plant i gyflawni eu potensial llawn, a'r rôl hanfodol y mae'r sector yn ei chwarae wrth alluogi twf economaidd drwy gefnogi rhieni a gofalwyr i ddod o hyd i waith ac i gadw eu swyddi. 

Yn ystod tymor hwn y Cynulliad, byddwn yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer plant tair a phedair oed i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio ledled Cymru, a’i gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i swyddi a'u cadw. Mae'r sector gofal plant yn chwarae rôl hanfodol wrth ein cefnogi i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Fodd bynnag, mae'r sector yn wynebu nifer o heriau yn yr hinsawdd economaidd bresennol, ac i gydnabod yr heriau hynny roeddem wedi ymrwymo i flaenoriaethu cymorth buddsoddi i’r sector yn nhymor hwn y Cynulliad. Rydym wedi gwneud cynnydd da hyd yma yn y meysydd canlynol:

 

Ardrethi Busnesau

Roeddem wedi addo i adolygu’r math o gymorth ychwanegol y gellid ei ddarparu o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach. O 1 Ebrill 2019 ymlaen, byddwn yn darparu 100% esemptiad ardrethi i fusnesau ar gyfer cyfnod o dair blynedd. Bydd y rhyddhad hwnnw'n helpu darparwyr gofal plant i sefydlu eu hunain yn fwy cadarn, gan helpu'r sector i ffynnu a thyfu'n unol â'n  Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

 

Cymorth i Fusnesau

Roedd cynllun 10 mlynedd y gweithlu wedi ymrwymo i ddatblygu ein dull o flaenoriaethu buddsoddiad ar gyfer cymorth i fusnesau a hybu sgiliau. Yn ystod 2018, roeddem wedi lansio ein cam cyntaf drwy ddatblygu cynllun grant pwrpasol ar gyfer cymorth i fusnesau sy'n anelu at helpu darparwyr a gofalwyr plant i ystyried creu lleoedd gofal plant ychwanegol neu i ddechrau busnes newydd. Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella ein dull o weithio ar gyfer cymorth i fusnesau.     

      

Cyflwyno Cymwysterau a Phrentisiaethau newydd y Cynnig Gofal Plant

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno cymwysterau newydd y cynnig gofal plant. Bydd y rheini ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a byddant yn cefnogi ymarferwyr gofal plant i hyfforddi ac ennill sgiliau lefel uwch. Mae gwaith datblygu'r cymwysterau newydd wedi parhau yn ystod 2018, ac rydym wrthi o hyd yn cydweithio'n agos â'n partneriaid. I gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd, byddwn yn parhau i gynnig Prentisiaethau lefel mynediad 2, gan annog cyflogwyr i gefnogi eu cyflogeion i symud ymlaen i lefel 3 ac ymhellach. Bydd yr ymrwymiad hwnnw’n sail i’n gwaith i gefnogi uchelgais cynllun 10 mlynedd y gweithlu i broffesiynoli'r sector.

 

Ymgyrch Recriwtio a Chadw Staff

Un o uchelgeisiau allweddol cynllun y gweithlu yw'n huchelgais i ddatblygu capasiti a gallu ar draws y sector. I gyflawni'r uchelgais honno, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â Gofal Cymdeithasol Cymru ar ymgyrch recriwtio a chadw staff cenedlaethol. Byd yr ymgyrch hwnnw'n cael ei lansio y flwyddyn nesaf.     

 

Prosiect Childcare Works

Mae cynllun y gweithlu yn ceisio cefnogi ffyrdd arloesol o ddatblygu capasiti ar draws y sector. Yn ystod 2018, mewn partneriaeth â Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru, roeddem wedi treialu dull sy'n rhoi cymorth i gyflogaeth ar gyfer unigolion sydd â'r sgiliau a'r priodoleddau iawn i weithio yn y sector gofal plant. Roedd nifer o ddeilliannau llwyddiannus yn sgil y peilot, gan gynnwys creu cyfleoedd i'r cyfranogwyr gael swyddi. Yn 2019, byddwn yn adeiladu ar lwyddiant prosiect cychwynnol Childcare Works drwy gynnal ail gam y prosiect mewn deg o awdurdodau lleol ledled Cymru.   

 

Y Camau Nesaf

Rwy wedi ymrwymo i barhau i gefnogi gwaith datblygu'r sector gofal plant o dan gynllun 10 mlynedd y gweithlu. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein dull buddsoddi pwrpasol o ran gwaith y sector wrth inni symud i 2019, gan adeiladu ar lwyddiant eleni a chan sicrhau bod uchelgeisiau'r cynllun 10 mlynedd yn cael eu gwireddu.