Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio canfyddiadau’r gwerthusiad diwedd rhaglen ac mae’n rhoi dadansoddiad o gyflawniadau terfynol y rhaglen, ac argymhellion ar gyfer gweithgaredd prosiect yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynigodd rhaglen SMARTCymru cymorth ledled Cymru i fusnesau sydd ar wahanol gamau o’r broses Ymchwil Datblygu ac Arloesi (RD&I), yn cynnwys Datblygu Cynnwys, Dichonoldeb Technegol a Masnachol, Ymchwil Diwydiannol, Datblygiad Arbrofol ac Ecsbloetiaeth.
Cynhaliwyd ymchwil y gwerthusiad rhwng misoedd Ebrill a Medi 2015 gan CM International a The Innovation Partnership.
Ffocws y gwerthusiad oedd deall perfformiad diwedd rhaglen SMARTCymru yn erbyn ei amcanion a'i dargedau penodedig. Y bwriad yw y bydd canlyniadau'r gwerthusiad yn hysbysu'r ddarpariaeth cymorth busnes RD&I yng Nghymru yn y dyfodol.
- Adeiladodd ymchwil y gwerthusiad ar ddata monitro a gasglwyd gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â nifer o arolygon gyda busnesau cyfranogol, busnesau gwrthffeithiol, ac ymwybyddiaeth fusnes ehangach o’r rhaglen yng Nghymru.
- Roedd y gwerthusiad hefyd yn cynnwys nifer fechan o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid a gweithdy gyda rheolwyr a staff cyflenwi Llywodraeth Cymru.
