Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i alluogi’r sector addysg bellach i ymateb i fylchau o ran sgiliau lefel uwch, penodol i swyddi, a datblygu darpariaeth i fynd i’r afael â hynny.

Gael yn hynny ar lefel ranbarthol fel a bennir gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol. Mae hefyd yn cefnogi Sefydliadau Addysg bellach i ddatblygu sail sgiliau eu staff drwy weithgareddau datblygu proffesiynol parhaus.

Mae’r ymchwil hwn yn ymwneud â’r flwyddyn beilot (2015-16), a’r flwyddyn ganlynol (2016-17).

Canfyddiadau allweddol

  • Mae lefel uchel o foddhad tuag at y Rhaglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau, ymysg darparwyr Addysg Bellach. Pwysleisiodd y sefydliadau addysg bellach mai pris fantais y Rhaglen oedd ei bod yn rhoi cyfle i’r staff addysgu gwblhau gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus. Gwelir y gweithgareddau hyn fel rhywbeth y mae eu gweithgarwch addysgu hwythau a gweithgarwch dysgu eu myfyrwyr wedi elwa arno. Hefyd mae’r sefydliadau addysg bellach o’r farn bod hyblygrwydd y Rhaglen a’r ffaith ei bod yn bosibl ei haddasu, o gymharu â chyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop, yn fantais fawr. 
  • Cyflawnwyd llai na’r disgwyl o dan linyn 1 oherwydd yr amserlenni; y tyb bod dyblygu’n digwydd mewn perthynas â rhaglenni’r Gronfa Gymdeithasol; a’r tyb y gellid ennill mwy o’r buddsoddiad mewn gweithgarwch llinyn 2/3. Fodd bynnag mae’r sefydliadau addysg bellach wedi dysgu o hyn fel y gwelir o’u gwaith cynllunio ar gyfer 2017-2019.
  • Roedd y Colegau a gafodd eu cyfweld yn dweud y gallai bylchau godi yn y gweithlu oherwydd yr adleoli o dan y Rhaglen, gan ei  fod yn anodd cael staff yn lle’r rheini a oedd wedi ymgymryd â lleoliadau datblygu proffesiynol parhaus. Hefyd dywedwyd bod diffyg gydweithio gyda grwpiau sy’n cynrychioli cyflogwyr a chyflogwyr i gael aelod arall o staff yn lle’r aelod a oedd yn ymgymryd â lleoliad datblygu proffesiynol parhaus.
  • Mae’r busnesau hynny sy’n elwa ar y Rhaglen wedi bod yn hapus gyda’u profiad, gan ddweud mai gwella sgiliau mewnol fu un o’r buddion ymarferol. Mae hynny wedi cael ei adlewyrchu mewn cyfres o astudiaethau achos a gomisiynwyd gan swyddogion polisi. 
  • Mae cyd-fuddsoddi’n parhau i fod yn her, wedi gwaddol o flynyddoedd lawer o ddarparu sgiliau’n rhad ac am ddim i bob pwrpas. 

Argymhellion

Gwnaed tri argymhelliad ar gyfer gwella cronfa unrhyw Raglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau yn y dyfodol:

  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i hysbysebu’r rhaglen. Gan y gall y gwaith o hyrwyddo’r cyfleoedd hyn fod yn heriol ar adegau i gyflogwyr ac unigolion yn llinyn 1, ac i staff yn llinyn 2
  • Dylai Llywodraeth Cymru gyfathrebu ynghylch y Rhaglen mewn modd sy’n gwneud y gwahaniaeth rhyngddi hi a rhaglenni tebyg yn glir. Gallai hynny helpu cyflogwyr i ddeall y rhaglen a’i manteision yn well
  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithredu system casglu data fwy cyson a strwythuredig mewn perthynas ag allbynnau a chanlyniadau sy’n deillio o’r gweithgarwch i gefnogi monitro a gwerthuso parhaus, gan ei fod wedi bod yn anodd cymharu’r canlyniadau ar draws Cymru fel y’u nodir yn yr adroddiadau terfynol.

Adroddiadau

Gwerthuso’r Rhaglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 932 KB

PDF
932 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso’r Rhaglen Blaenoriaethau o ran Sgiliau: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 329 KB

PDF
329 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Davies

Rhif ffôn: 0300 025 0508

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.