Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar ein cynnydd fel cenedl yn erbyn y 7 nod llesiant gan gyfeirio at y 46 dangosydd cenedlaethol.

Prif bwyntiau

  • Gwelwyd cynnydd cyffredinol mewn disgwyliad oes, ac mae’r cyfnod o amser a dreulir mewn iechyd da wedi bod yn codi. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau yn parhau ar draws gwahanol grwpiau. 
  • Mae llai yn smygu ac yn yfed, ond yn gyffredinol mae un person o bob deg yn dilyn llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw. Gwelwyd cynnydd mewn gordewdra ymysg oedolion dros y tymor hir.
  • Yn nhermau dechrau iach i fywyd, mae cynnydd da wedi bod mewn meysydd fel bwydo o’r fron a iechyd deintyddol, ond mae gordewdra yn parhau i fod yn her.
  • Mae pobl yn fwy tebygol nag erioed o fod mewn gwaith yng Nghymru, er bod heriau economaidd hanesyddol yn parhau. Er bod cael swydd yn lleihau'r siawns o fod yn dlawd, mae tlodi mewn gwaith yn cynyddu wrth i fwy o bobl ddechrau gweithio. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r gweithwyr mewn "gwaith boddhaol".
  • Fel yng ngweddill y DU, ychydig o welliant a fu o ran incwm pobl, er bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi lleihau a chyrhaeddiad addysgol yn cynyddu.
  • Mae tlodi incwm cymharol wedi parhau'n ystyfnig ac ar ei uchaf ymysg plant, er bod canran is o'r boblogaeth yn dweud eu bod mewn amddifadedd materol. Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn un o'r prif resymau dros anghydraddoldebau ar gyfer rhai canlyniadau fel cyrhaeddiad addysgol a disgwyliad oes. 
  • Mae anghydraddoldebau yn parhau mewn gwahanol ddangosyddion ac ar draws gwahanol grwpiau o'r boblogaeth. Er enghraifft, mae pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i'r ardal leol, a menywod yn teimlo'n llai diogel yn eu cymunedau na dynion. 
  • Mae synnwyr pobl o gymuned a pherthyn yn dibynnu ar amrywiol ffactorau. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda'r ardal lle maent yn byw, er bod un o bob pump yn teimlo'n unig. 
  • Mae nifer o oedolion yn mynd i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon neu’n cymryd rhan ynddynt, ac fe welwyd tuedd gyffredinol ar i fyny dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae cyfranogiad yn amrywio yn ôl oedran a chefndir. 
  • Un o bob pump sy'n siarad Cymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r data'n awgrymu bod cynnydd yn nifer y rhai sy'n siarad Cymraeg ond nid yn rhugl, ac mae'r defnydd o'r iaith wedi aros yn gyson. 
  • Mae ansawdd dŵr ac ansawdd aer Cymru'n parhau i wella, ac allyriadau nwyon tŷ gwydr wedi syrthio. Fodd bynnag, mae llygredd aer yn parhau i fod yn fater iechyd sylweddol. 
  • Gwelwyd cynnydd o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Ond mae ein hôl troed ecolegol yn awgrymu bod ein prif adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio'n gynt nag y gellir eu hailgyflenwi.
  • Yn gyffredinol, mae amrywiaeth fiolegol yn dirywio, ac nid oes modd dweud bod gan unrhyw ecosystem yng Nghymru bob un o'r nodweddion sy’n angenrheidiol i fod yn gadarn.

Adroddiadau

Llesiant Cymru, 2017 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Llesiant Cymru, 2017: siartiau a data perthnasol , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 400 KB

XLSX
400 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.