Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar y nifer o anheddau sy'n gorfod talu'r dreth gyngor, bandio, gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifir bod cyfanswm nifer yr anheddau sy’n gymwys i dalu’r dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2019-20 wedi cynyddu fesul 5,399 neu 0.4%, ar y flwyddyn flaenorol i 1,380,571. Ar gyfer dibenion cyfrifo’r Grant Cynnal Refeniw mae’r cyfanswm hwn yn cyfateb i 1,239,992 o anheddau band D. Rhondda Cynon Taf sy’n dangos y cynnydd mwyaf mewn anheddau band D cyfatebol sef 1.6%.
  • Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o anheddau band A (44,336). Blaenau Gwent sydd â'r gyfran uchaf o anheddau ym mand A (59%), Sir Fynwy sydd â'r isaf (1%).
  • Mae dros draean o anheddau yng Nghymru yn cael disgownt o 25%, fel arfer oherwydd eu bod yn cael eu meddiannu gan un person cymwys yn unig.
  • Mae 60,004 o anheddau yng Nghymru wedi’u heithrio rhag y dreth gyngor, sef 4.2% o’r holl anheddau. Y categori mwyaf sydd wedi’i eithrio yw anheddau gwag a heb eu dodrefnu gydag 18,178; ac ar ôl hynny anheddau i fyfyrwyr 16,850, a 6,238 o anheddau wedi’u heithrio o ganlyniad i fod yn wag adeg marwolaeth.
  • Mae 9 awdurdod yn codi premiwm cartref gwag hirdymor, ac mae 7 yn codi premiwm ail gartref.  Mae 12,807 neu 50% o gartrefi gwag hirdymor yng Nghymru yn cael disgownt o 50%.

Adroddiadau

Anheddau’r Dreth Gyngor, Ebrill 2019 i Mawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 537 KB

PDF
Saesneg yn unig
537 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.