Mae Strategaeth y Gymraeg, 'Iaith fyw: iaith byw' yn cyflwyno ein gweledigaeth o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Fframwaith gwerthuso strategaeth y Gymraeg
Mae Fframwaith Gwerthuso Strategaeth y Gymraeg (Chwefror 2013) yn cynnig sail ar gyfer rhaglen o ymchwil a dadansoddiadau i asesu deilliannau ac effeithiolrwydd y Strategaeth. Bwriedir i astudiaethau ymchwil a gwerthuso a gwblheir yng nghyd-destun y Fframwaith Gwerthuso ehangu ein sail tystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, ynghyd â Gwerthusiad y Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg.
Bwriedir i’r astudiaeth hon gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru wrth iddi fireinio a datblygu ei dulliau gweithredu i gyrraedd yr amcanion a gyflwynir yn Iaith fyw, iaith byw a Bwrw Mlaen. Gosodwyd seiliau’r astudiaeth gan y Fframwaith Gwerthuso ar gyfer Iaith fyw: iaith byw a gyhoeddwyd yn Chwefror 2013.
Mae’r astudiaeth yn archwilio patrymau defnydd iaith mewn cymunedau yng Nghymru a rhai o’r ffactorau sydd yn gysylltiedig â hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae hefyd yn asesu a yw’r mathau o raglenni a ariennir gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo defnydd y Gymraeg yn cwrdd ag anghenion cymunedau.
