Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw bydd Llywodraeth Cymru yn gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr adroddiad diweddaraf sy'n ofynnol o dan Adran 124 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Deddf y Môr). Mae'r adroddiad yn berthnasol i'r cyfnod rhwng mis Ionawr 2014 a mis Rhagfyr 2018 ac mae'n amlinellu'r cynnydd sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gyflawni o safbwynt cyfrannu at rwydwaith a gaiff ei reoli'n effeithiol o ardaloedd morol gwarchodedig ar draws y DU.

Mae'r Adroddiad yn disgrifio sut y mae'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru wedi'i atgyfnerthu yn ystod y cyfnod hwn yn sgil dynodi deg o Ardaloedd newydd. Mae hefyd yn nodi canlyniadau asesiad o rwydwaith Cymru a ddaeth i'r casgliad fod Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru yn cyfrannu'n sylweddol at rwydwaith ehangach a mwy ecolegol gydlynus o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. [1] 

Mae'r Adroddiad hefyd yn disgrifio llwyddiannau o safbwynt rheoli'r Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ystod y cyfnod adrodd. Mae hyn yn cynnwys gwaith sylweddol y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig sydd wedi sicrhau bod y rhwydwaith yn cael ei reoli'n effeithiol a'i fod yn parhau i gael ei reoli'n effeithiol a Fframwaith Rheoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig . Mae'r Fframwaith hwn yn pennu'r strwythur ar gyfer rheoli a gwella cyflwr y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

Rwyf eisoes wedi datgan fy ymrwymiad i sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n cyflawni ei rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol o safbwynt diogelu ecosystemau a bioamrywiaeth y môr. Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo i wella cydlyniaeth a chyflwr y rhwydwaith yn ystod y cyfnod adrodd nesaf. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys defnyddio pwerau newydd ar gyfer gwarchod natur yn nyfroedd allanol Cymru a dynodi Ardaloedd Cadwraeth Forol.

[1] http://jncc.defra.gov.uk/pdf/JNCC_NetworkProgressWelshWaters_Final.pdf