Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Ebrill 2023, penodwyd Jocelyn Davies yn Ddirprwy Gadeirydd. Cyn hynny bu’n gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o'n bwrdd ers mis Hydref 2017.

Ers ymddeol o’r byd gwleidyddol, mae Jocelyn wedi gweithio mewn amryw o swyddi gyda gwahanol gyrff, gan gynnwys:

  • y Panel Cynghori i Gomisiynydd Plant Cymru; gweithredu fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC)
  • ARAC Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Ymddiriedolwr a Chadeirydd ar Fwrdd Gofal a Thrwsio Cymru
  • aelod o Dasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De
  • llysgennad ar gyfer Cymorth i Ferched Cymru
  • ymddiriedolwr Undeb Credyd Plaid Cymru

Bu Jocelyn yn Aelod Cynulliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2016. Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Penodwyd Jocelyn yn Ddirprwy Weinidog yn llywodraeth glymblaid Plaid Cymru a Llafur Cymru'n Un rhwng 2007 a 2011. Yma roedd hi'n gyfrifol am dai ac adfywio. Yn ddiweddarach, bu'n cadeirio Pwyllgor Cyllid y Cynulliad tan 2016.