Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae Ian Bond, dyn busnes wedi ymddeol o Aberdâr, wedi defnyddio ei gyflwr cronig, sy'n cyfyngu ar ei fywyd i greu busnes llwyddiannus - Bond Digital Health - sy'n cynnig datrysiadau ar gyfer iechyd digidol.

Wedi cael diagnosis Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) ddeng mlynedd yn ôl, roedd Ian yn benderfynol o reoli ei gyflwr a dechreuodd gadw dyddiadur cynhwysfawr o 'bwyntiau llesiant' i gadw llygad ar ei iechyd a'i feddyginiaethau. Roedd y dyddiadur hwn yn golygu bod ei apwyntiadau gyda'r meddyg yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn sail i'w driniaeth.

Amcangyfrifir bod tri miliwn o bobl yn dioddef o COPD yn y DU, a dechreuodd ddatblygu'r system yn rhywbeth y gallai helpu dioddefwyr eraill.

Gyda ei bartner busnes, Dave Taylor, sefydlodd Bond Digital Health Ltd yng Nghaerdydd yn 2016, gan gydweithio gyda prifysgolion lleol i greu dyddiadur smart a phlatfform ap allai helpu cleifion gyda chyflyrau cronig i fonitro eu hiechyd.

Mae'r cwmni yn bwriadu datblygu cynnyrch technolegol y mae modd ei wisgo ar gyfer cleifion gyda COPD i helpu cleifion fonitro eu cyflwr a rhoi data mwy cywir a chynhwysfawr i'w meddyg.

Mae Mr Bond hefyd yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i ddatblygu ap dyddiadur electronig fydd yn helpu cleifion COPD i reoli eu cyflwr. O'r enw myCOPDnurse, bydd y prosiect yn caniatáu i gleifion gofnodi ffactorau megis y defnydd o feddyginiaethau a symptomau tra'n monitro ffactorau amgylcheddol megis ansawdd yr aer, paill a'r tywydd. Bydd hefyd yn cyd-fynd â'r ddyfais dechnolegol sy'n cael ei gwisgo i fonitro cleifion sy'n dioddef o glefyd yr ysgyfaint 24/7 wedi iddynt adael yr ysbyty.

Mae hefyd yn arwain consortiwm amlwg a rhyngwladol sy'n datblygu prawf newydd ar gyfer TB buchol, gyda thechnoleg ddigidol Bond yn rhan allweddol o'r prosiect.