Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru erthygl ystadegol yn cyflwyno Amcangyfrifon newydd o'r Angen am Dai yng Nghymru  ar Lefel Genedlaethol a Rhanbarthol (yn seiliedig ar 2018). Y ddwy elfen sy'n ffurfio amcangyfrifon o'r angen cyffredinol am dai yw angen newydd ac angen presennol nas diwallwyd. Cyflwynir amrywiaeth o amcangyfrifon sy'n cyfleu'r data gorau sydd ar gael gan dderbyn bod ansicrwydd bob amser lle mae amcanestyniadau yn y dyfodol yn seiliedig ar dueddiadau yn y gorffennol. Mae'r amcangyfrifon hyn wedi'u cynhyrchu'n annibynnol gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gan ddilyn egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac maent wedi'u llywio gan grŵp rhanddeiliaid, yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Caiff yr amcangyfrifon eu cyflwyno ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol, ond cydnabyddir y bydd cryn amrywiad o fewn pob rhanbarth ac o fewn pob awdurdod lleol. Mae amcangyfrifon 2018 yn cymryd lle'r amcangyfrifon blaenorol o'r angen am dai yng Nghymru a gynhyrchwyd gan y diweddar Alan Holmans ac a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn 2015.

Mae'r erthygl ystadegol ar gael yn y ddolen ganlynol:

https://gov.wales/statistics-and-research/housing-need-and-demand/?skip=1&lang=cy

Canfyddiadau allweddol:

  • Amcangyfrifir, ar gyfartaledd, y bydd angen rhwng 6,700 a 9,700 o dai ychwanegol bob blwyddyn yn ystod y pum mlynedd gyntaf (gydag amcangyfrif canolog o 8,300).
  • Mae'r amcangyfrifon o'r angen am dai ychwanegol yn lleihau'n raddol dros y 15 mlynedd nesaf, gan adlewyrchu'r ffaith bod y twf rhagamcanol mewn aelwydydd yn arafu o'r amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2014. Caiff amcanestyniadau aelwydydd eu llywio'n bennaf gan amcanestyniadau o'r boblogaeth.
  • Erbyn canol yr 2030au, amcangyfrifir y bydd angen hyd at 6,500 o dai ychwanegol bob blwyddyn (gydag amcangyfrif canolog sydd islaw 4,000).
  • Mae'r ystod o amcangyfrifon yn amlwg yn ehangu wrth fynd ymhellach i'r dyfodol, gan adlewyrchu natur ansicr yr amcangyfrifon hyn.

Bydd yr Amcangyfrifon newydd o'r Angen am Dai yn llywio cynlluniau a strategaethau ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol mewn sawl maes polisi. Byddant yn chwarae rhan ganolog wrth lunio polisi tai a chynllunio yn y dyfodol ar draws fy mhortffolio a byddant yn llywio meysydd fel y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a ddylai gael ei gyhoeddi yn 2020.  Mae'r angen am dai hefyd yn llywio'r asesiadau o lesiant lleol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae'n bwysig cydnabod, er bod yr amcangyfrifon hyn yn sail i drafod penderfyniadau polisi, a'u bod yn dynodi'r angen a'r galw cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru, ni ddylent gael eu defnyddio fel targed tai ac ni allant ddarogan yn union beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol.  Mae'r amcangyfrifon hyn yn rhan o'r sail dystiolaeth i lywio'r gwaith o ddatblygu targedau lleol neu genedlaethol y mae angen iddynt ystyried polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ac ystyriaethau ymarferol er mwyn llunio barn ar y lefel o dai y gellir eu cyflwyno mewn ardal go iawn.

Bydd aelodau yn ymwybodol bod yr angen am dai eisoes wedi'i nodi'n llif gwaith â blaenoriaeth gan y panel annibynnol sy'n cynnal yr Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.  Bydd yr adolygiad yn cyhoeddi ei argymhellion ym mis Ebrill 2019. Caiff yr amcangyfrifon mwyaf diweddar o'r angen a'r galw am dai yn y dyfodol eu defnyddio ochr yn ochr â chanfyddiadau'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy er mwyn datblygu polisi a chynigion tai yn y dyfodol.

Bwriadaf adolygu'r fethodoleg a ddefnyddir i bennu gofynion tai lleol, a'r gwaith a wneir gan awdurdodau lleol drwy Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol, ar ôl cwblhau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy, ac wrth i'r dull newydd o amcangyfrif yr angen am dai yn y dyfodol, ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, ymsefydlu.