Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd, lle mae adeiladu wedi dechrau a rhai a gwblhawyd ar gyfer Ebrill i Mehefin 2019.

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC).

Prif bwyntiau

  • Dechreuwyd 1,685 o anheddau newydd yn ystod Ebrill i Fehefin 2019,  21% yn fwy na’r tri mis blaenorol ond 7% yn llai na’r flwyddyn flaenorol.
  • Dechreuwyd 5,841 o anheddau newydd rhwng Gorffennaf 2018 a Mehefin 2019, 3% yn is nag yn y cyfnod Gorffennaf 2017 i Fehefin 2018.
  • Cwblhawyd 1,596 o anheddau newydd yng Nghymru yn ystod Ebrill i Fehefin 2019, 20% yn uwch na’r tri mis blaenorol a 2% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
  • Rhwng Gorffennaf 2018 i Fehefin 2019, cwblhawyd 5,813 o anheddau newydd, 6% yn is na’r cyfnod Gorffennaf 2017 i Fehefin 2018.
  • Roedd 77% o’r holl anheddau newydd a gwblhawyd yn ystod y chwarter hwn yn y sector breifat, 23% gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a 0.4% gan awdurdodau lleol.
  • Rhwng Gorffennaf 2018 a Mehefin 2019, gostyngodd nifer yr anheddau a gwblhawyd gan y sector breifat 14% o gymharu a’r cyfnod Gorffennaf 2017 i Fehefin 2018; cynyddodd nifer yr anheddau a gwblhawyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 50%, a gostyngodd nifer yr anheddau a gwblhawyd gan awdurdodau lleol 67%.
  • Cwblhawyd 6 o anheddau awdurdodau lleol newydd yn ystod Ebrill i Fehefin 2019, a thai cymdeithasol ar gyfer Cyngor Sir y Fflint oedd y rhain.
  • Roedd anheddau 3 ystafell wely yn cynrychioli 41% o’r cyfanswm gwblhawyd yn ystod Ebrill i Fehefin 2019, yr un ganran â’r flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd nifer yr anheddau 2 ystafell wely 1% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roeddent yn cynrychioli 24% o’r cyfanswm, yr un ganran ag yn 2018.

Nodyn

  • Caiff y gostyngiadau yn nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd eu dylanwadu gan amrywiadau chwarterol gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn wedi'u haddasu'n dymhorol.
  • Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor adeiladu tai cenedlaethol (NHBC) sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.
  • Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.