Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Mawrth 2019.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni eisiau eich barn ar newidiadau arfaethedig i rôl yr awdurdod cyhoeddi a’r meini prawf ar gyfer cyhoeddi fframweithiau prentisiaeth.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydyn ni’n ymgynghori ar gynigion i wella rôl yr awdurdod cyhoeddi, a’i llywodraethiant.
Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Newid sut rydym yn datblygu a chyhoeddi fframweithiau i ddiwallu anghenion unigolion a chyflogwyr
- Gweinidogion Cymru i ymgymryd â’r rôl awdurdod cyhoeddi ar gyfer cyhoeddi fframweithiau prentisiaeth
Dogfennau ymgynghori
Dogfennau ymghynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 986 KB
PDF
986 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
