Neidio i'r prif gynnwy

Ystadegau ac ymchwil yw'r brif ffynhonnell annibynnol o ran cyhoeddi ystadegau swyddogol cyfredol a hanesyddol, ac ymchwil gymdeithasol ac economaidd sy'n ymwneud â Chymru.

Ystadegau

Mae ein holl ystadegau yn unol â'r safonau a gaiff eu diffinio gan Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig, corff annibynnol sy'n gweithredu hyd braich o'r llywodraeth fel adran anweinidogol.

Mae ein holl ddatganiadau ystadegol yn cael eu diffinio'n Ystadegau Swyddogol gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Maent yn cael eu cynhyrchu yn unol ag egwyddorion y Y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Bydd ystadegau sy'n cael eu hasesu i fod yn unol â'r cod ac sydd wedi'u cymeradwyo gan Awdurdod Ystadegau'r DU yn cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol hefyd.

Ymchwil gymdeithasol

Mae ymchwil gymdeithasol yn cynnig tystiolaeth o ansawdd uchel ar faterion, prosesau a chanlyniadau cymdeithasol, er mwyn darparu gwybodaeth a fydd yn sail i ddatblygu a chyflawni polisi. Mae hefyd yn rhoi gwybod i ni am yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am y materion hynny, ac yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n digwydd fel canlyniad.

Mae ein hymchwilwyr cymdeithasol yn rhwym wrth Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

Egwyddorion ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso

  • Rhoi ystyriaeth gynnar i waith gwerthuso: bydd polisïau a rhaglenni newydd yn ystyried anghenion gwaith gwerthuso o'r cychwyn cyntaf.
  • Cynllunio gwaith ymchwil a gwerthuso yn effeithiol: bydd y broses fewnol o gynllunio am dystiolaeth yn canolbwyntio ar gynnig tystiolaeth i gefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth.
  • Cyhoeddi ymchwil: byddwn yn cyhoeddi gwaith ymchwil yn unol â Protocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
  • Gweithredu ar ymchwil: byddwn yn paratoi ymatebion posibl i argymhellion pob gwerthusiad ar gyfer y Gweinidogion.
  • Gwerth am arian: byddwn yn cynnwys dadansoddiad manwl o werth am arian yn y gwerthusiad pan fo hynny'n bosibl.