Neidio i'r prif gynnwy

Data ar hunaniaeth rywiol yn cael ei lunio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar sail yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r bwletin hwn yn cynnwys y prif ffigurau ar gyfer Cymru.

Mae'r pwyntiau isod wedi eu tynnu o'r bwletin diweddaraf yn ogystal â'n dadansoddiad ychwanegol o set ddata cyfun sy'n cynnwys 3 blynedd o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Oherwydd maint samplau bach, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigurau hyn.

Prif bwyntiau

  • Yn 2017, nodwyd fod 95.0% o bobl yng Nghymru dros 16 oed yn heterorywiol/syth. Mae hyn yn cymharu â 1.3%(r) a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd, 0.7%(r) yn ddeurywiol, a 0.5% o dan y categori ‘arall’. Roedd 2.5% naill ai ddim yn gwybod, neu heb ateb y cwestiwn.
  • Dros y pum blwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfran o’r boblogaeth Cymru a nodwyd yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) wedi cynyddu’n raddol o 1.3% yn 2012 i 2.0% yn 2017.
  • O’r bobl yng Nghymru a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd mwy na dwy ran o dair ohonynt (69.2%) rhwng 16 a 45 mlwydd oed. Mae hyn yn cymharu â llai na hanner (43.2%(r)) o’r boblogaeth gyfan.
  • Nododd dwywaith cymaint o ddynion na merched eu bod yn hoyw/lesbiaidd tra bod ychydig mwy na ddwy ran o dair o bobl a nodwyd yn ddeurywiol yn ferched.
  • Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn fwy tebygol o fod yn sengl nag wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
  • O'r rheiny a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd 61.9% yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru (o'i gymharu â 48.3% o'r boblogaeth gyfan). Roedd 14.8% yn byw yn y Gogledd (o'i gymharu â 22.4% o'r boblogaeth gyfan).
  • Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol tair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn tref fawr o'i gymharu â thref fach neu bentref.

(r) Diwygiedig ar 26 Mehefin 2019.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.