Neidio i'r prif gynnwy

Data ar danau, lleoliad, achosion, cymhelliad, anafiadau, galwadau ffug a Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig a fynychwyd ay gyfer Ebrill i Medi 2018.

Tanau

  • Ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 8,271 o danau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 25%.
  • Roedd 2,476 o brif danau yng Nghymru, cynnydd o 11%.
  • Roedd 5,709 o danau eilaidd yng Nghymru, cynnydd o 33%. Gan fod canran fawr o’r tannau eilaidd yma yn digwydd y tu allan, mae’n debygol fod y tywydd yn dylanwadu arnynt.
  • Roedd 3,330 tanau glaswelltir, coetir a chnydau yn y cyfnod hwn, cynnydd o 89%. Digwyddodd dros hanner o’r tanau yma yn Orffennaf 2019.

Anafusion

  • Roedd 11 o farwolaethau tân yng Nghymru, 5 yn fwy nag yr adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 97 o anafiadau yn y cyfnod hwn, gostyngiad o 7%. Derbyniodd 93 pellach gymorth cyntaf, neu fe’u hanfonwyd i ysbyty am brofion rhagofalus neu fe’u cynghorwyd i ofyn am gyngor meddygol. Mae hyn yn cyfateb i ostyngiad o 40%.

Galwadau ffug

  • Roedd 7,835 o ffug alwadau tân yng Nghymru, 5% yn fwy na'r adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.
  • Roedd 189 o alwadau ffug maleisus, 13% yn llai na adroddwyd yn yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Nodyn

Mae’r data dros dro yn ymwneud â’r cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd 30 Medi 2018 ac yn cymharu gyda’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.