Neidio i'r prif gynnwy

Busnes peirianyddol teuluol yn Nhredegar yw’r cyntaf i elwa o Gronfa Ad-daladwy BBaCh Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae M&J Europe Ltd – un o’r cwmnïau sy’n cynhyrchu beltiau cludo, beltiau gêr a beltiau amseru – yn buddsoddi £500,000 ar brosiect ehangu gyda chymorth  £150,000 o’r gronfa.  Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu y gall y safle gynhyrchu mwy a chreu deg o swyddi newydd, gan ddiogelu wyth arall.  Mae’r cwmni yn cyflogi deuddeg o bobl ar hyn o bryd. 

 

Mae’r gronfa, sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau ym mhrif sectorau Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyllid ad-daladwy o rhwng £50,000 a £500,000 i BBaChau ac mae wedi’i chynllunio i fod yn gyllid cyfatebol ar gyfer prosiectau, cyllid sydd wedi dod o gyllid preifat ar y farchnad fasnachol.  Mae’r gronfa wedi ei chynllunio i helpu busnesau bychain a chanolig i ddatblygu a chreu swyddi.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi BBaCh yng Nghymru, ac mae’r Gronfa hon yn ychwanegol i’r gyfres bresennol o gymorth busnes sydd ar gael.  Rwy’n falch iawn ei fod yn helpu M&J Europe – busnes brodorol teuluol – i ehangu a chreu swyddi sy’n talu yn dda iawn yn ardal Blaenau’r Cymoedd.”  

Mae’r cwmni wedi ei leoli ar Ystad Diwydiannol Tafarnaubach, a bydd yn ehangu eu gyfleuster gweithgynhyrchu ac yn addasu’r safle i wella’r cynhyrchu, cynnwys ardal Ymchwil a Datblygu benodol a gwella’r gallu i ddyblu y trosiant.

Meddai Chris Garland o M&J Europe: 

“Mae’r cyllid ad-daladwy hwn wedi rhoi yr hyder inni fynd  ymlaen ac ehangu’r busnes, buddsoddi mewn offer newydd a chynyddu ein hallbwn.  Byddwn yn gallu cynhyrchu yn fwy effeithiol ac effeithlon fydd yn ei dro yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth sydd hyd yn oed yn well i’n cleientiaid ledled Prydain.  Rydym hefyd yn falch iawn o greu swyddi newydd yn yr ardal.”  

Mae M&J Europe yn arbenigo mewn gwasanaethau trin deunyddiau, ac mae ganddynt brofiad eang mewn dylunio, gweithgynhyrchu a chomisiynu systemau cludo cyflawn.  Mae’r cwmni hefyd yn cynnig contractau cynnal a chadw a gwasanaethu yn ogystal â gwasanaeth rheoli prosiectau ar gyfer prosiectau cyfalaf mawr.

Roedd y busnes yn targedu diwydiannau cloddio trwm yn wreiddiol fel mwyngloddio a chwarela ond ers hynny mae wedi arallgyfeirio i wasanaethu amrywiol ddiwydiannau sy’n rhan o awtomatiaeth bwyd, argraffu, prosesu, ailgylchu, fferyllol, cynyrhcu pŵer a phacio.

Mae’n cynllunio systemau pwrpasol i fodloni gofynion cwsmeriaid penodol, gan gynnwys dylunio a chynhyrchu armywiol gynnyrch fel systemau cludo, peiriannau pwrpasol, dulliau ffisegol o amddiffyn, rhodfeydd a llwyfannau ar gyfer amrywiaeth eang o gwmnïau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Abingdon Flooring, Braces Bakery, Rockwool, Wilkinson’s Distribution Centre, Siniat (Plasterboard Mills) a TRW ac ati.

Mae hefyd wedi buddsoddi llawer i ddatblygu nifer o beiriannau arbenigol newydd sydd yn y cyfnod prototeip cyn cynhyrchu.  

Roedd y cwmni hefyd yn freintiedig i gael y cyfle i ddylunio a chynhyrchu plac ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines a Dug Caeredin ar agoriad swyddogol y Gweithfeydd yng Nglyn Ebwy.