Neidio i'r prif gynnwy

Gyda’n gilydd, gallwn weithio i arwain economi gryfach a mwy hyderus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch arweinwyr busnes mewn dau Fforwm ar gyfer Cwmnïau Angori, y naill yn Wrecsam a’r llall yng Nghaerdydd, siaradodd Ken Skates am effaith a chyfleoedd canlyniad refferendwm yr UE, gan wrando ar ofidiau a chynnig y camau nesaf.

Meddai: 

“Cawsom ddau gyfarfod anhygoel o gynhyrchiol a chael trafodaeth adeiladol am ganlyniad refferendwm yr UE, y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil i fusnesau yng Nghymru a sut y gall Llywodraeth Cymru, busnesau a’r byd academaidd eu hybu.  Roedd yn wych gweld cymaint o egni yn y stafell a gwir awydd i dorchi llewys. 

“Roedd y trafodaethau’n gyfle hefyd imi gwrdd â hanner cwmnïau Angori Cymru.  Y neges glir ac amlwg rwy’n ei chlywed yw bod yna gyfleoedd anferth inni, o weithio gyda’n gilydd fel Tîm Cymru, i elwa ar rai o’r argoelion a ddaw i Brydain ar ôl gadael yr UE, hynny er yr heriau sy’n ein hwynebu. 


“Byddaf yn rhoi fy sylw ar ddod â phobl, sefydliadau a phartneriaid cymdeithasol ynghyd i weithio gyda’i gilydd er lles Cymru gyfan.  Gwlad fach ydyn ni, ond mae hynny’n golygu ein bod yn gallu bod yn ystwyth ein hymateb, a chyda’n gilydd, rwy’n credu y gallwn fagu economi gryfach a sicrach, economi sy’n cynnal sgiliau crefftus ac sy’n dod â budd i bob cymuned yn y wlad.  Roeddwn yn falch iawn clywed am ymrwymiad ein Cwmnïau Angori i gefnogi’r nod hwn dros yr wythnosau a misoedd nesaf.”


Gan esbonio’r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’i wneud i dawelu ofnau cwmnïau a dangos iddynt bod Cymru’n agored i fusnes, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 


“Yn union ar ôl canlyniad refferendwm yr UE, gofynnodd y Prif Weinidog imi baratoi Cynllun Hyder i Fusnesau.  Rwyf wedi gwneud hynny a rhannais ei fanylion â’r Cwmnïau Angori wythnos yma. 

“Mae un rhan o’r cynllun yn golygu creu Cronfa Twf a Ffyniant. Rydyn ni’n sylweddoli bod yna ansicrwydd ac yn cydnabod bod gan Lywodraeth ei rhan i ddangos arweiniad a phenderfyniad. A dyna’n union rydyn ni’n ei wneud.  Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi economi Cymru trwy gynnal camau penodol fel creu cronfa dwf yn ogystal â buddsoddi’n hyderus mewn seilwaith a sgiliau hanfodol.”

“O safbwynt helpu Busnesau Bach a Chanolig a busnesau newydd, rwy’n gefnogwr brwd i roi’r math iawn o help a chreu’r amgylchiadau iawn i bobl fusnes lwyddo.  Yng Nghymru, mae gennym Fusnes Cymru a nifer o hybiau creadigol ac amrywiol, ac rwy am wneud yn siŵr ein bod ni’n creu mwy ohonyn nhw.  Hynny, er mwyn sicrhau bod gan entrepreneuriaid, arloeswyr a chrewyr le ar y cyd i fynd iddo a gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu syniadau busnes a helpu ei gilydd i fagu eu busnesau.”

Gan roi ei chefnogaeth i weledigaeth Ysgrifennydd y Cabinet o Dîm Cymru cryf, meddai Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Wales BT, Alwen Williams: 

“Dyma gyfle mawr ei groeso i fusnesau a Llywodraeth Cymru ddod ynghyd i drafod heriau a chyfleoedd Brexit. 

“Mae Fforymau’r Cwmnïau Angori yn dangos pa mor gydweithredol y gall Cymru fod ac rydyn ni eisoes wedi gweld dros yr haf mai gorau chwarae yw cyd-chwarae.  Mae’n bryd nawr i fusnesau a’r Llywodraeth ddilyn eu hesiampl i wneud Cymru’n lle mwy deniadol i fuddsoddwyr.” 

Dywedodd y Dr Mark Picton, Rheolwr Gweithrediadau Masnachol RWE (Pwerdy Aberddawan): 

“A hithau’n gyfnod o ansicrwydd i fusnesau ar ôl Brexit, roedd yn dda clywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau bod Cymru’n “agored i fusnes”. 

“Roedd yn galonogol gweld hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddeall yr heriau i’n busnesau unigol.  Rwy’n teimlo’n hyderus y gallwn drechu’r heriau hyn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.”