Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Cleardata UK Ltd ‒ cwmni blaenllaw ym maes sganio dogfennau ‒ yn ehangu yng Nghymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r busnes, sydd â’i bencadlys yn Northumberland lle mae ganddo ddwy ganolfan fodern i storio archifau a sganio dogfennau, wedi prynu safle 1.8 erw oddi wrth Lywodraeth Cymru ym Mharc Busnes Penarlâg, lle mae’n buddsoddi £1.5 miliwn er mwyn adeiladu swyddfeydd a warysau newydd.

Rhoddwyd gwerth £304,000 gymorth o dan y Grant Datblygu Eiddo i helpu gyda’r buddsoddiad hwn, a fydd yn creu 18 o swyddi newydd ac yn diogelu tair arall.

Mae gan y cwmni swyddfa ranbarthol fach ym Mrychdyn, Sir y Fflint ar hyn o bryd lle mae’n cyflogi 3 aelod o staff. Y gwaith hwnnw fydd yn ehangu, diolch i gymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru.  

Mae Cleardata’n gweithio mewn amgylchedd diogel ac mae’r cyfleusterau sydd ganddo i reoli a sganio dogfennau ac i storio archifau yn rhai a adeiladwyd yn benodol at y diben hwnnw. Maent yn cael eu diogelu gan systemau datblygedig iawn i ganfod tân a dŵr, ac mae’r systemau mynediad yn rhai biometrig sy’n defnyddio olion bysedd. Bydd warws 18,000 troedfedd sgwâr a swyddfa 4,000 troedfeddi sgwâr ar y safle newydd ym Mharc Busnes Penarlâg a bydd y manylebau ar eu cyfer yr un mor dynn ag ar gyfer y cyfleusterau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r gwaith wedi dechrau’n barod.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi: 

“Mae’n Llywodraeth ni yn gadarn o blaid busnesau ac rydyn ni wedi ymrwymo i gydweithio â chwmnïau i’w helpu i dyfu. Dw i’n falch iawn, felly, bod Cleardata wedi dewis ehangu a buddsoddi yma yng Nghymru.

“Bydd y cwmni’n creu amryw o gyfleoedd newydd am swyddi wrth iddo ehangu yng Nghymru er mwyn diwallu’r galw cynyddol ledled y DU am ei wasanaethau sganio dogfennau, storio archifau a rheoli dogfennau.”

Mae Cleardata, sy’n cyflogi 75 o bobl, yn hyrwyddo amryfal wasanaethau i helpu sefydliadau i leihau costau ac i droi’n ddi-bapur, drwy weddnewid y ffordd y mae data’n cyrraedd ac yn gadael eu busnesau. Mae’r cwmni’n gwasanaethu sefydliadau eraill, ac mae’r gwasanaethau a gynigir ganddo yn cynnwys sganio dogfennau, storio dogfennau a’u hadalw’n ddigidol, gwasanaethau ystafell bost, prosesu anfonebau, gwasanaethau cwmwl i reoli dogfennau a gwasanaethau datblygu cymwysiadau symudol.

Dywedodd David Bryce, Rheolwr Gyfarwyddwr Cleardata: 

“Profodd y cwmni dwf o 22% y llynedd, a bydd yn tyfu’n gyflymach eto ar ôl inni ennill contractau newydd sy’n werth bron dwy filiwn o bunnoedd a denu busnesau o bob cwr o’r DU. Er mwyn parhau i dyfu, roedd angen inni greu mwy o le ar gyfer y gwaith rydyn ni’n ei wneud  ac ar gyfer storio archifau.  

“Dw i’n falch iawn ein bod wedi penderfynu ehangu yng Nghymru, gan ddod â buddsoddiad i mewn i’r rhanbarth. Drwy ehangu fel hyn, byddwn ni’n cefnogi twf economaidd a thwf o ran cyflogaeth drwy greu cyfleoedd newydd am swyddi yn yr ardal. Mae angen i’n busnes hyfforddi a recriwtio staff newydd ar gyfer amryfal fathau o waith yn y sefydliad.”

“Yr hyn sydd wedi symbylu twf Cleardata yw’r galw cynyddol am ddigideiddio a gwasanaethau cwmwl. Bydden ni’n croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweld sut gallwn ni helpu’i fusnes i arbed costau ac i fod yn fwy effeithlon o ran y modd y mae’n trafod data a dogfennau. I gael rhagor o fanylion, gallwch droi at ein gwefan.”