Neidio i'r prif gynnwy

Mae LSN Diffusion Ltd yn ehangu yn Rhydaman. Bydd yn golygu y gall y cwmni gynhyrchu mwy a hynny drwy gymorth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad hefyd yn creu a’n diogelu swyddi. Sefydlwyd LSN Diffusion Ltd yn 2012 gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac mae’n gwmni cyd-fentro. Cymru sy’n berchen ar 75% o’r cwmni ac mae ganddo bartner yn yr India.

Mae’r cwmni’n creu cynhyrchion metelegol uwchdechnoleg ac fe’u defnyddir mewn cymwysiadau lefel uchel ledled y byd megis mewn offer ar gyfer y sector amddiffyn, awyrofod a cherbydau, gweithfeydd pŵer sy’n troi gwastraff yn ynni, i archwilio a chynhyrchu olew a nwy, ac ym maes deintyddiaeth a gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D).  

Mae bron 90% o’r cynhyrchion yn cael eu hallforio ac er mwyn cwrdd â’r galw cynyddol a ddaw o bob cwr o’r byd, penderfynodd y cwmni gynhyrchu mwy, a hynny naill ai ar safle Cilyrychen, Llandybie neu yn Nagpur, India lle mae Diffusion Engineers,  partner    cyd-fentro’r cwmni wedi’i leoli.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnig pecyn cymorth i gynorthwyo’r gwaith o ddiogelu’r buddsoddiad ar gyfer Cymru. Bydd yn creu chwe swydd newydd ac yn diogelu chwe swydd grefftus arall. Bydd hefyd yn cadw Eiddo Deallusol Craidd LSN Diffusion yng Nghymru.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae LSN Diffusion yn gwmni peirianyddol sy’n tyfu’n gyflym ac yn gweithio yn un o’n sectorau allweddol ac mae’n buddsoddi’n sylweddol mewn gwaith ymchwil a datblygu cynnyrch. Caiff dewrder y cwmni ei gydnabod ledled y byd gan fusnesau peirianyddol uwchdechnoleg o’r radd flaenaf yn UDA, yr UE, Tsienia, Japan a Korea. Maent yn gwethfawrogi gallu LSN Diffusion i greu prototeipiau a chynhyrchion powdwr aloi pwrpasol gan gefnogi a hyrwyddo gallu Cymru ar lwyfan y byd”.

Dywedodd Philip Allnatt, Rheolwr Gyfarwyddwr LSN Diffusion: 

“Rydw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r buddsoddiad a’r twf diweddaraf hwn. Bydd yn sicrhau bod y cwmni’n parhau i dyfu’n gynaliadwy yng Nghymru gan gadw dros 60 o swyddi crefftus iawn.”

Gwnaeth allbwn LSN Diffusion gynyddu 15% yn 2015 ac yn sgil y buddsoddiad a’r offer ychwanegol hyn bydd yn tyfu 17% y flwyddyn ymhellach yn 2016 a 2017.

Mae’r cwmni’n prynu cynhyrchion a gwasanaethau gan nifer o gyflenwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a bydd y buddsoddiad yn creu manteision i’r gymuned yn ehangach.