Neidio i'r prif gynnwy

I ddechrau yr Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-eang eleni, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn dathlu llwyddiant rhwydwaith yng Ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ken Skates yn ymweld â Phrifysgol Glyndwr i ddysgu mwy am sut y mae’r Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes lleol yn ysbrydoli ac yn cefnogi entrepreneuriaid lleol i wireddu eu breuddwydion ym myd busnes.  


Rhwydwaith yng Ngogledd-ddwyrain Cymru yw BEN, o dan gadeiryddiaeth dyn busnes o Sir y Fflint, Askar Sheibani, a sefydlwyd yn 2012 gyda chymorth Llywodraeth Cymru. 


Mae’n gydweithrediad gwirioneddol rhwng entrepreneuriaid, Llywodraeth, partneriaid academaidd a grwpiau ieuenctid a chymunedol, ac mae wedi gweld llwyddiant mawr drwy weithgareddau ar batrwm Dragon’s Den a chlybiau menter lleol sy’n annog pobl mewn grwpiau anoddach i’w cyrraedd i ystyried y posibilrwydd o entrepreneuriaeth.  


Yn ystod ei ymweliad, bydd Ken Skates hefyd yn tynnu sylw at lwyddiant rhaglen gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ei hanelu at gefnogi entrepreneuriaid a Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru i ddechrau busnesau a datblygu.  


Ym mis Ionawr, lansiodd Llywodraeth Cymru ei gwasanaeth Busnes Cymru sydd wedi’i wella a’i ymestyn, a gafodd gymorth o £86 miliwn gan Lywodraeth Cymru a chyllid yr UE.    


Dengys y ffigurau diweddaraf, rhwng mis Ionawr a Medi, bod y gwasanaeth newydd wedi helpu i greu 2100 o swyddi, diogelu 350 o swyddi, cefnogi dros 2200 o bobl oedd am gael cyngor, a darparu gwybodaeth a chyfeirio dros 5000 o gwsmeriaid.  


Meddai Ken Skates:


“Mae entrepreneuriaid yn bwysig iawn i economi Cymru ac mae ganddynt y potensial i gynyddu lefelau gwaith a ffyniant yn sylweddol. 


“Rwy’n benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i annog, cefnogi a datblygu gweithgarwch entrepreneuraidd ledled Cymru, ac mae hyn yn cynnwys ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o ddynion a merched busnes newydd i wireddu eu breuddwydion ym myd busnes.   


“Nid oes amheuaeth y gall dechrau busnes fod yn gam enfawr sy’n codi ofn, felly mae mentrau fel BEN a’n gwasanaeth Busnes Cymru ar ei newydd wedd, wedi gwariant o £86 miliwn, yn amhrisiadwy wrth ddarparu’r sicrwydd hwnnw y mae mawr ei angen, a help llaw i’n entrepreneuriaid newydd.  


“Mae ymweliad heddiw yn dangos i bawb, os oes gennych yr awydd, a’r syniad, bod cymorth ar gael i helpu ichi droi’r syniad hwnnw yn llwyddiant gwirioneddol.  Fel Llywodraeth, rydym yn canolbwyntio ar hybu mwy o fentrau arloesol ac mae angen inni barhau i gefnogi entrepreneuriaid mwy uchelgeisiol, arloesol a phenderfynol yng Nghymru i lwyddo.”


Meddai  Askar Sheibani: 


“Mae ein rhwydwaith hyd yma wedi helpu dros 150 o unigolion talentog i wireddu’u huchelgais mewn busnes.  Mae’r busnesau sydd wedi’u creu gan yr unigolion hyn yn dal i gael effaith bositif ar gymunedau lleol, diwydiant ac economi Cymru.

“I gyfraniad hael y gymuned fusnes leol a chefnogaeth hanfodol Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint y mae’r diolch am lwyddiant aruthrol y fenter hon.  Mae rhaglen fentora unigryw BEN wedi ennyn sylw a chlod o bob rhan o’r wlad a’n hamcan nawr yw rhyddhau’r model arloesol hwn ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig. 

“Rydyn ni’n gwbl hyderus y gwnaiff digwyddiad heddiw roi hwb i fomentwm ein hymgyrch, gan gynyddu’i heffaith wrth roi grym i entrepreneuriaid dirifedi yng Nghymru a thu hwnt.”