Neidio i'r prif gynnwy

Mae Electroimpact UK yn buddsoddi £2.8m yn ei gyfleusterau a’i waith yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy mewn symudiad fydd yn creu 37 o swyddi bras gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Electroimpact UK yn arbenigo mewn dylunio, cynhyrchu, cynnal a thrwsio offer a chyfarpar cydosod ar gyfer systemau awtomataidd yn y diwydiant awyrofod.


Mae’r buddsoddiad mewn ffatri cydosod newydd mawr ym Mharc Technoleg Electroimpact yn Mhenarlâg yn galluogi’r cwmni i fentro i faes cynhyrchu cydrannau ar gyfer y systemau hyn.  Bydd yn rhoi’r gallu iddo gynnal prosiectau mwy o faint a mwy cymhleth. 


Sicrhawyd y buddsoddiad i Gymru gyda chymorth £282,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru gan gadarnhau lle Penarlâg fel prif swyddfa ranbarthol y cwmni yn Ewrop/Asia. Gallai’r cwmni fod wedi ehangu ei brif gampws ym Mukilteo, Washington neu un o’i ffatrïoedd yn China neu Frasil. 

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Yn  y saith mlynedd diwethaf mae Electrimpact UK wedi tyfu o gyflogi dim ond 27 o weithwyr i gyflogi 140 o bobl ac rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu’r datblygiad diweddaraf sy’n nodi pennod newydd yn ei gynlluniau i ehangu ei alluoedd a’i gapasiti. 

“Mae’r cwmni’n gweithredu yn un o’n sectorau economaidd mwyaf allweddol ac mae’n fuddsoddiad pwysig arall yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy fydd yn cynnal twf y ffatri yn y dyfodol ac yn creu swyddi o’r ansawdd uchaf. 

“Mae cadw’r prosiect yng Nghymru wedi bod yn hwb aruthrol hefyd i’r gadwyn gyflenwi o 94 o gwmnïau lleol sy’n sicrhau bod y buddsoddiad yn cael effaith fawr ar yr economi ehangach.” 

Mae Electroimpact yn arweinydd byd ym maes cynhyrchu offer ar gyfer systemau awtomataidd yn y diwydiant awyrofod.  Cafodd ei sefydlu gan Peter Zieve yn UDA ym 1986 ac agorwyd ei ffatri yng Nghymru yn 2000. 

Electroimpact bellach yw’r integreiddydd llinellau cydosod awyrennau mwyaf yn y byd. Ymhlith ei gwsmeriaid y mae Airbus, Boeing, Kawasaki Heavy Industries, Mitsubishi Heavy Industries, Fuji Heavy Industries, Spirit Aerospace, Vought, Northrop-Grumman, Israeli Aircraft Industries, Xi’an Aircraft of China, Bombardier ac Embraer.

Mae’r cynnydd cyflym a pharhaus ym marchnad awyrofod y byd wedi gweld y galw am offer a systemau awtomataidd yn tyfu’n sylweddol.  Mae sectorau rocedi gofod a milwrol America wedi dangos mwy o ddiddordeb yn y blynyddoedd diwethaf a derbyniwyd contractau gan NASA.