Neidio i'r prif gynnwy

Mae Acerchem International grŵp iechyd a maethyllol blaenllaw o China sydd am sefydlu eu prif swyddfa Ewropeaidd a chanolfan ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y newyddion heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates sydd yn Tsieina ar daith fasnach ac sy’n cwrdd â Chadeirydd Acerchem International Frank Chen, y Cyfarwyddwr Strategol Ms Nancy Wu a’r Is-Lywydd Rhyngwladol Ken Li mewn derbyniad i fusnesau yn Shanghai heno. 

Dywedodd Mr Skates: 

“Mae’n dda iawn clywed bod Acerchem International wedi dewis sefydlu eu prif swyddfa Ewropeaidd yng Nghymru a’u bod am agor canolfan weithgynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu yma hefyd, gan greu nifer dda o swyddi bras. 

“Mae’r cwmni wedi bod yn cydweithio ar waith ymchwil gyda Phrifysgol Abertawe ers blynyddoedd, gan ddangos pwysigrwydd meithrin cysylltiadau academaidd rhyngwladol â busnes a diwydiant. 

“Bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi gyda’r buddsoddiad hwn na all ond cryfhau’r berthynas rhwng y ddwy wlad.  Mae Tsieina yn farchnad hynod bwysig i Gymru ac mae ein taith fasnach yr wythnos hon yn atgyfnerthu’r cysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd.” 

Fel hwb i fuddsoddiad Acerchem International, mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu £600,000 ato.  Caiff 38 o swyddi bras o’r radd flaenaf eu creu, y rhan fwyaf ohonynt yn swyddi Ymchwil a Datblygu.  Cynllun y cwmni yw agor canolfan ymchwil a datblygu yn yr Athrofa Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd Cadeirydd Acerchem International, Frank Chen: 

“Rydym yn disgwyl ymlaen yn fawr at adeiladu’n busnes yng Nghymru a chryfhau’n cysylltiadau eto â Phrifysgol Abertawe.  

“Diolch i help Llywodraeth Cymru, bu modd inni brysuro’r prosiect ac roedd yn hanfodol i’n denu i Gymru.  Rydym yn gwerthfawrogi’r help hefyd rydym wedi’i gael gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn Shanghai a Chaerdydd

“Mae agor y brif swyddfa a’r ganolfan ymchwil a datblygu yng Nghymru yn ddatblygiad cyffrous newydd i’r grŵp ac yn gyfle gwych i ddatblygu ac ehangu’r busnes.” 

Sefydlwyd Acerchem International gan y Prif Weithredwr, Jeff Jiang, yn Shanghai yn 2007 ac mae wedi tyfu’n fusnes gwerth miliynau o bunnau ac yn grŵp blaenllaw yn y sectorau iechyd a maethyllol.  Mae’r cwmni’n allforio i dros 40 o wledydd gyda swyddfeydd gwerthu yng Nghymru – yn yr Athrofa Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe – ac yn Japan, yr Iseldiroedd a Sbaen. 

Mae’n cynhyrchu atchwanegiadau bwyd, bwydydd a diodydd gweithredol, deunydd harddwch ac atchwenegiadau bwyd i anifeiliaid. 

Mae gan y cwmni bortffolio amrywiol o gynhwysion wedi’u heplesu ac y mae wedi datblygu uned echdynnu a phuro soffistigedig gan ddefnyddio cynhwysion naturiol i greu cynhyrchion sy’n cael eu hamsugno’n well ac sy’n fwy sefydlog. 

Mewn canolfan ymchwil a datblygu yn Shanghai a chan weithio law yn llaw â Phrifysgol Abertawe, mae’r cwmni wedi datblygu ei fformwlâu ei hunan sy’n cynnwys rhag-gymysgiadau, blendiau, tabledi, jelïau meddal ac eraill.  Gallai ei gynllun i fuddsoddi’n drwm mewn ymchwil a datblygu gyda Phrifysgolion Cymru a chynyddu ei fusnes â’i gwsmeriaid yng Nghymru arwain at greu rhagor eto o swyddi.