Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyfle i fusnesau o fewn ardaloedd Ardal Fenter Glyn Ebwy, sydd bellach yn fwy eang, ymgeisio am gymorth o gylch diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd Ardal Fenter Glyn Ebwy ei hehangu’n ddiweddar er mwyn cynnwys tri safle ychwanegol – Ystad Ddiwydiannol Tafarnaubach, Ystad Ddiwydiannol Waun Y Pound a Pharc yr Ŵyl/Victoria. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates: 

“Mae Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter wedi helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau. Pleser yw cyhoeddi bod cyllid ychwanegol ar gael fel y gall busnesau cymwys o fewn ardaloedd ehangach Ardal Fenter Glyn Ebwy ymgeisio amdano ac elwa arno.”

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar fentrau bach a chanolig sy’n dangos twf, busnesau newydd neu fusnesau sy’n cynyddu maint eu gweithlu amser llawn. Caiff ystyriaeth ei rhoi hefyd i weithgarwch busnes arall sydd ynghlwm wrth sectorau, cynhyrchiant uwch ac arloesi/ymchwil a datblygu. 

Mae Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter ar gael i fusnesau o fewn wyth Ardal Fenter Cymru a gallent sicrhau gostyngiad sylweddol yn yr ardrethi busnes blynyddol ar gyfer 2016-17. 

Bydd modd cyflwyno cais ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 hyd ddydd Gwener, 31 Mawrth 2017. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun, gall busnesau ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar rhadffon 03000 6 03000 neu gysylltu â thîm Cynllun Ardrethi Busnes yr Ardaloedd Menter drwy anfon e-bost at: EZBRS@wales.gsi.gov.uk gan ofyn am ffurflen gais.