Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl iddo gael cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, mae cwmni cynhyrchu gwydr sy'n gweithio mewn marchnad arbenigol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Treforest Glass, sy'n cyflogi mwy na 40 ar hyn o bryd, yn symud i ffatri 52,745 troedfedd sgwâr yn Nhonyrefail, sydd gryn dipyn yn fwy na'i adeilad presennol ym Mharc Busnes Glan-bad Pontypridd.

Mae'r cwmni'n buddsoddi £1.3 miliwn er mwyn prynu'r adeilad a gosod cyfarpar ac offer ynddo, ac mae wedi cael £80,000 o Gronfa Twf a Ffyniant  Llywodraeth Cymru i'w helpu yn hynny o beth. Cronfa yw hon sy'n rhoi grantiau nad oes angen eu 

had-dalu er mwy helpu BBaCHau i dyfu ac i greu rhagor o swyddi. Bydd yn creu deg swydd newydd ac yn diogelu 15 arall.

Sefydlwyd y busnes ym 1986 i gynnig gwasanaethau gosod gwydr i gleientiaid ar draws y De ond fe'i prynwyd gan y perchenogion presennol yn 2006.

Ar ôl y dirwasgiad yn 2010, pan fethodd nifer o gwmnïau gwydr, dechreuodd y busnes fynd ar drywydd cyfleoedd i gynhyrchu unedau gwydr wedi'u selio ar gyfer marchnadoedd arbenigol. Mae'r cwmni wedi tyfu'n sylweddol ers hynny ac mae bellach yn gallu cynhyrchu unedau acwstig o safon uchel sy'n cael eu defnyddio gan westai i helpu i leihau sŵn. Mae hefyd yn cynhyrchu unedau ar gyfer adeiladau rhestredig a phrosiectau adfer adeiladau. 

Erbyn hyn, mae gweithgynhyrchu'n fwy na 80% o drosiant y cwmni ac mae ganddo gwsmeriaid ledled y DU.

Nid oedd gan y cwmni ddigon o le yn yr adeilad presennol erbyn hyn ac roedd angen adeilad mwy o faint ac uwch arno er mwyn iddo gael defnyddio craen. Bydd hynny'n golygu y bydd yn gallu cyflenwi unedau mwy o faint a chynhyrchu mwy, gan ei wneud yn fwy cystadleuol a chosteffeithiol. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae Treforest Glass wedi dod o hyd i farchnad arbenigol mewn diwydiant hynod gystadleuol, a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn golygu y bydd y cwmni'n gallu ehangu, targedu marchnadoedd newydd a chreu swyddi.

"Mae'r Gronfa Twf a Ffyniant yn rhan o'r Cynllun Hyder Busnes a gyhoeddwyd ar ôl pleidlais Brexit er mwyn sicrhau y byddai busnesau yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gyllid i'w galluogi i dyfu a chreu swyddi. Dw i'n falch mai dyna beth yn union mae'n ei wneud."

Dywedodd Peter Zehetmayr o Treforest Glass: 

"Rydyn ni wedi bod yn mynd ati'n barhaus i ddatblygu ac i gynhyrchu cynhyrchion newydd, gan ddilyn y tueddiadau sydd i'w gweld yn y farchnad, ac mae hynny wedi helpu i sbarduno twf y busnes. Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol, roedd hi'n hanfodol ein bod yn symud i adeilad mwy o faint er mwyn inni fedru manteisio ar gyfleoedd newydd a diwallu'r angen am ein cynhyrchion arbenigol. 

"Roedd y cymorth gawson ni oddi wrth Lywodraeth Cymru yn golygu ein bod wedi gallu gwneud hynny'n gynt a dw i'n edrych 'mlaen at gael cynnig cyfleoedd hyfforddiant a swyddi i bobl ifanc yn yr ardal."