Neidio i'r prif gynnwy

Mae tîm cynhyrchu Bad Wolf, gyda help Llywodraeth Cymru, yn creu cyfleuster cynhyrchu o'r radd flaenaf yng Nghaerdydd i ateb y galw am stiwdios yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyfleuster cynhyrchu newydd wedi ei leoli yn Trident Park, Ocean Way ger Canol Caerdydd. Prynwyd y safle gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei gosod ar brydles o dan delerau masnachol gan ddarparu cyfleusterau stiwdio i gwmni cynhyrchu Bad Wolf yn ogystal â chynnig cartref ar gyfer cynyrchiadau teledu eraill.

Bydd Bad Wolf yn ffilmio eu holl gynyrchiadau yn y dyfodol yn y stiwdio, gan gynnwys y gyfres A Discovery of Witches a His Dark Materials a chyda llawer o gynyrchiadau eraill yn yr arfaeth, mae’n fuddsoddiad mawr yng Nghymru fel canolfan gynhyrchu rhaglenni teledu rhyngwladol.

Hon fydd yr unig stiwdio yng Nghymru a fydd yn gallu cynnig lle ag uchafswm uchder o 17.5 metr (57 troedfedd). Bydd hyn yn sicr yn denu cwmnïau o bob rhan o’r byd i gynhyrchu rhaglenni teledu o’r radd flaenaf a ffilmiau sydd â chyllidebau mawr.  Bydd yn elfen hanfodol ar gyfer rhai o gynyrchiadau Bad Wolf hefyd.

Wrth ymweld â'r safle heddiw gyda Jane Tranter, y Prif Weithredwr, a Julie Gardner, Rheolwr Gyfarwyddwr Bad Wolf, esboniodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, ei fod yn gaffaeliad pwysig o safbwynt strategol a fyddai'n ateb y galw mawr cynyddol am stiwdios o'r fath yng Nghymru.  Mae mwy a mwy ohonynt yn cael eu darparu mewn ardaloedd eraill o'r DU ac mae Cymru’n gorfod cystadlu â hynny.

Dywedodd: 

"Bydd cyfleuster o'r fath yn sicrhau bod Cymru yn parhau ar flaen y gad gan gynnig digon o le mewn stiwdio fawr ar gyfer cwmnïau cynhyrchu a fydd yn dymuno ffilmio yma. Mae ganddo wir botensial i drawsnewid sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru, gan greu canolfan gynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau ar raddfa fawr."

Sefydlwyd Bad Wolf, sydd wedi'i leoli yng Nghymru ac yn America, yn 2015 gan Jane Tranter a Julie Gardner, uwch swyddogion teledu arobryn, ifanteisio ar eu cysylltiadau yn America ac ar eu Heiddo Deallusol i sicrhau, datblygu a chynhyrchu prosiectau dramâu teledu safonol yng Nghymru.

Roedd gan Bad Wolf anghenion penodol o ran y stiwdio yr oeddent am ei defnyddio yng Nghymru – roedd angen o leiaf 200,000 troedfedd sgwâr o le ar gyfer ffilmio, dau lwyfan mawr gydag uchder y nenfwd yn fwy na 10 metr. Roedd yn rhaid i’r stiwdio fod yn addas ar gyfer cynyrchiadau mawr a bod ganddi ddigon o le ar gyfer swyddfeydd ychwanegol. 

Mae'r ddwy uned yn Trident Park – sy'n gyfanswm o 253,500 o droedfeddi sgwâr – yn ateb yr anghenion hyn ac mae ganddynt gyswllt uniongyrchol â'r M4 ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da sy’n golygu y gall y rhan fwyaf o brif gwmnïau criw a chwmnïau cadwyni cyflenwi Cymru eu cyrraedd yn hawdd.

Yn dilyn ymweliad â'r stiwdio, dywedodd Ken Skates: 

"Mae cyfleuster sy'n addas ar gyfer cynyrchiadau ar raddfa fawr yn hanfodol i Bad Wolf er mwyn iddo ddarparu ei brosiectau a fydd yn creu twf o £120 miliwn a mwy yn y sector ffilm a theledu yng Nghymru. Bydd hefyd yn ased allweddol i'r sector creadigol yng Nghymru gan ddarparu cyfleusterau i gwmnïau cynhyrchu mawr eraill.

"Bydd yn sicrhau budd economaidd cynaliadwy yn y tymor hir i Gymru, yn cryfhau'r sylfaen o sgiliau a'r gadwyn gyflenwi, ac yn denu buddsoddiadau a thwristiaid. Ar ben hynny, bydd yn codi proffil cwmnïau cynhyrchu dramâu Cymru yn fyd-eang ac yn helpu i sicrhau twf parhaus yn y sector hwn yng Nghymru."

Dywedodd Jane Tranter o Bad Wolf:

“Bydd Wolf Studios Wales yn tyfu’n gyfleuster o safon byd-eang,  a hynny yng nghalon cymuned greadigol ffyniannus Caerdydd. Mae Cymru wedi gweld dadeni yn y maes cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae gofod stiwdio yn brin.  Gyda chymaint o gynyrchiadau Bad Wolf ar y gweill, roeddem am gartref parhaol ar gyfer ein holl gynyrchiadau, a stiwdio hwylus a chyfleus ar gyfer y myrdd ffilmiau a chyfresi teledu sydd ar eu ffordd  i Gymru.  Mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y gofod newydd hwn yn dystiolaeth bellach o’r cyfleoedd niferus y gall ffilmio yng Nghymru nawr eu cynnig.”

Mae gan Bad Wolf brosiectau cynhyrchu uchelgeisiol a chyffrous ar y gweill. Mae eisoes wedi sefydlu partneriaethau cadarn â darlledwyr gan gynnwys HBO, BBC, SKY, Channel 4 a’r History Channel.