Neidio i'r prif gynnwy

Mae GD Environmental, sef un o gwmnïau rheoli gwastraff cynhenid mwyaf blaenllaw Cymru, wedi cyhoeddi tua  £1.6 miliwn o fuddsoddiad newydd a'i fod yn ehangu ar draws ei dri safle yn Ne Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Cynllun, sy'n cael £300,000 o Gronfa Twf a Ffyniant y Llywodraeth, hefyd yn diogelu 27 o swyddi ac yn creu cyfanswm o 136 o weithwyr yn ei safleoedd yng Nghasnewydd, Pont-y-pŵl a Llanelli.
Nod GD Environmental yw bod yn un o'r cwmnïau rheoli gwastraff carbon bositif cyntaf yn y DU, ac mae'n hoelio sylw ar sicrhau bod cymaint â phosibl o wastraff yn cael ei ailgylchu a llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi. Ar hyn o bryd, mae'n ailgylchu 98% o'r 225,000 o dunelli o wastraff sy'n cael ei brosesu ganddo bob blwyddyn.
Bydd y buddsoddiad yn ehangu ei wasanaethau gwastraff hylif yn Llanelli; yn uwchraddio ac ailwampio'r orsaf trosglwyddo gwastraff ym Mhont-y-pŵl, ac yn ehangu ei safle prosesu yng Nghasnewydd, gan sicrhau mwy o gapasiti a chyflwyno technoleg newydd i ailgylchu plastigau caled mewn ffordd gynaliadwy. 
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 
"Mae ffocws GD ar ailgylchu a lleihau’r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi yn cefnogi Strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff y Llywodraeth. Bydd y buddsoddiad yn helpu i ddatblygu ei gynlluniau twf, yn cynyddu capasiti ac yn helpu i hybu ei fusnes gan gynnig swyddi newydd a budd economaidd i ranbarthau'r De ar yr un pryd.

Mae'r cwmni yn cynnig gwasanaeth rheoli gwastraff llwyr i'r sector preifat a'r sector cyhoeddus, ac mae wedi datblygu o fod yn fusnes draenio craidd i fod yn gwmni cenedlaethol sy'n darparu pob math o wasanaethau rheoli gwastraff.
Mae amrywiaeth ei wasanaethau yn cynnwys prosesu sgrap, ailgylchu plastig, prosesu gwastraff hylif, trefnu a gwahanu gwastraff sych, ymdrin â gwastraff peryglus, yn ogystal â hurio sgipiau, clirio ac atgyweirio draeniau, a chael gwared ar asbestos.
Mae rhaglen ehangu wedi bod ar waith ers i Oliver Hazell a Mark Hazell gaffael ar y busnes yn 2015. Ehangodd y cwmni ei allu yn 2016 drwy gaffael ar gwmni Fred Lloyd & Sons ym Mhont-y-pŵl a ddarparodd gyfleuster a oedd yn gallu ymdrin â sgrap a hen gerbydau.
Dywedodd Oliver Hazell: 
"Bydd y buddsoddiad hwn a'r gefnogaeth gan y Llywodraeth yn ein helpu i gyflawni'r uchelgais o fod yn wasanaeth rheoli gwastraff mwyaf blaenllaw y DU. Rydyn ni'n gwneud buddsoddiad sylweddol ym mhob un o'r tri safle i gynnig gwasanaeth hyd yn oed yn well i'n cwsmeriaid. Bydd yn sicrhau twf ac yn ein galluogi i greu mwy o swyddi ym mhob lleoliad. Byddwn hefyd yn parhau i leihau ein hôl-troed carbon lle bynnag y bo'n bosibl.