Neidio i'r prif gynnwy

Mae wyth ar hugain o brosiectau i elwa  o ddwy gronfa datblygu eiddo yr UE, ac i ddarparu cyfres o safleoedd masnachol o safon uchel yn y Gogledd, y Gorllewin a’r Cymoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae dau ar bymtheg o brosiectau o Gronfa’r Grant Eiddo ar gyfer Datblygu Busnes (PBDG) gwerth £7 miliwn, ac un-ar-ddeg o’r Gronfa Seilwaith Eiddo (PIF) wedi derbyn cyllid amodol.  Bydd cynigion pendant yn cael eu gwneud unwaith y bydd ceisiadau yr ail gam wedi dod i law, ac wedi eu hasesu ymhellach a’u cymeradwyo’n ffurfiol.  


Bydd y prosiectau a ddewiswyd, gyda’i gilydd, yn darparu dros filiwn troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr diwydiannol newydd ac wedi’i adnewyddu, gyda’r gallu i gynnig oddeutu 2000 o swyddi.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:  

“Mae’r prosiectau a ddewiswyd wedi’u lledaenu yn ddaearyddol ar draws y Gogledd, y Gorllewin a’r De-ddwyrain, a bydd yn hybu twf busnesau ac yn creu swyddi, gan sicrhau manteision gweladwy i economïau lleol.  

“Bydd y cymorth grant sydd ar gael drwy’r prosiectau hyn sy’n cael eu hariannu gan yr UE yn help i ysgogi’r farchnad, creu safleoedd a swyddfeydd diwydiannol newydd o safon uchel ar gyfer swyddi, ac yn bwysicaf oll, yn bodloni anghenion busnesau lleol.”  

Cafodd y prosiectau llwyddiannus eu dewis mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid rhanbarthol ledled Cymru, i roi’r gwerth gorau am arian ac i sicrhau’r effaith economaidd mwyaf.  Mae’r prif bwyslais ar brosiectau yn yr Ardaloedd Menter, Ardaloedd Twf Lleol a Dinas-Ranbarthau.  

Mae’r ddwy gronfa ar gyfer adeiladu o’r newydd ac adnewyddu /estyniadau /addasaiadau gyda chynllun PIF wedi ei anelu’n benodol at ddatblygiadau i adeiladau ymlaen llaw, a’r gronfa PBDG wedi’i thargedu at gefnogi busnesau sydd â phrosiectau ehangu pwrpasol.  

Mae’r Cronfeydd yn anelu at bontio’r bwlch o ran hyfywedd ariannol sy’n bodoli mewn rhannau o Gymru, rhwng y gost o adeiladu, ehangu neu adnewyddu eiddo a gwerth yr adeilad ar y farchnad wedi ei gwblhau.