Neidio i'r prif gynnwy

Bydd partneriaeth Cymru gydag Aston Martin yn cael ei hybu yn fyd-eang o’r wythnos hon gan gar rasio proffesiynol V8 Vantage GTE y cwmni, fydd yn dangos brand Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r brandio newydd i ddathlu’r ffaith y bydd Aston Martin yn symud i Gymru a bydd yn cael ei arddangos ledled y byd wrth i’r V8 Vantage gystadlu mewn Pencampwriaeth dygnwch y byd rasus yn Mecsico, UDA, Siapan, Tsiena a Bahrain yn y tymor sydd i ddod.  

Llynedd, cyhoeddodd Aston Martin ei fod wedi dewis Sain Tathan o’r 20 o leoliadau posibl ar gyfer ei ail ganolfan gweithgynhyrchu, fel rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn mewn cynnyrch a chyfleusterau newydd.   

Mae’r gwaith bellach wedi dechrau i adeiladu canolfan weithgynhyrchu Aston Martin yn Sain Tathan, ac mae disgwyl y bydd yn cyflogi tua 750 o weithwyr erbyn 2020, ac yn cefnogi nifer o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi leol.  

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

“Mae penderfyniad Aston Martin i symud i Sain Tathan yn llwyddiant mawr i Gymru.  Mae’n dangos menter Llywodraeth Cymru, ac enw da, ymroddiad a sgiliau ein gweithlu.  

“Rydym yn falch iawn o’n perthynas gydag Aston Martin, ac yn falch iawn y bydd yn cael ei weld gan bawb ar y car rasio proffesiynol, y V8 Vantage GTW y tymor hwn.  

“Rwy’n dymuno’n dda i’r tîm wrth iddynt ddechrau’r tymor ac yn gobeithio y bydd brand Cymru yn ychwanegu at lwyddiant y tîm”  

Meddai Simon Sproule Is-lywydd a Phrif Swyddog Marchnata Aston Martin; 

“Rydym wedi bod yn falch o ddefnyddio Aston Martin Racing i hyrwyddo ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phrosiect St Athan.  Bu’n flwyddyn wych i Aston Martin Racing gyda buddugoliaeth yn Le Mans ac yn ddiweddarach yn Mecsico.”Amcangyfrifir y bydd symud Aston Martin i Sain Tathan yn dod â manteision economaidd sy’n werth oddeutu hanner biliwn o bunnoedd i Gymru.  Yn gynharach eleni hysbysebwyd gwerth hyd at £60 miliwn o gontractau Aston Martin ar sianel gaffael GwerthwchiGymru, i sicrhau y gallai BBaChau Cymru elwa o adeiladu’r ganolfan weithgynhyrchu.  

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n galed i sicrhau bod Cymru yn sicrhau cymaint â phosib o fanteision economaidd o ganlyniad i’r ffaith bod Aston Martin yn symud i Gymru, ac ym mis Ebrill llwyddodd i drefnu Briff Busnes i ddod â chynrychiolwyr y sefydliadau academaidd yng Nghymru a sefydliadau arloesi gyda’i gilydd yn ogystal ag uwch-dîm rheoli Aston Martin. 

O ganlyniad i hyn mae nifer o’r sefydliadau hyn wedi ymweld â Chanolfan Aston Martin yn Gayden i drafod cydweithio academaidd a diwydiannol posibl, ac maent yn trafod amrywiol brosiectau datblygu technoleg posibl gyda’r cwmni.