Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Ken Skates wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi ein bod yn cydweithio er mwyn datblygu porthladdoedd a gweithgareddau economaidd cysylltiedig ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Grŵp Porthladdoedd Cymru wedi trefnu derbyniad yn ystod wythnos Morgludiant Rhyngwladol Llundain. Y nod yw  cynnig cyfle unigryw i weithwyr proffesiynol sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd a'u gwasanaethau fynd ati i rwydweithio, yn ogystal â hyrwyddo porthladdoedd Cymru ymhlith y gymuned ryngwladol. 


Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a'r Seilwaith: 


"Mae porthladdoedd yng Nghymru mewn sefyllfa unigryw i sbarduno cyfoeth economaidd drwy gefnogi twf economaidd a swyddi ym mhob cwr o Gymru, yn ogystal â dod â gwerth ychwanegol i gymunedau.


"Mae hon yn flwyddyn bontio bwysig i Lywodraeth Cymru wrth inni edrych ymlaen at yr adeg pan fydd swyddogaethau'n ymwneud â phorthladdoedd yn cael eu datganoli o dan Ddeddf Cymru 2017 o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd datganoli'r swyddogaethau hynny yn rhoi cyfleoedd cyffrous inni wella'n berthynas waith â'r sector ac i'w gefnogi wrth iddo ymgymryd â'r rôl allweddol sydd ganddo i’w chwarae o ran sicrhau Cymru ffyniannus, ddiogel, unedig a chysylltiedig.


"Mae'n hollbwysig ein bod yn cydweithio â'r sector porthladdoedd a gyda busnesau ledled Cymru ar y risgiau a'r cyfleoedd unigryw a ddaw yn sgil Brexit. Rhaid inni ddod o hyd i atebion a fydd yn sicrhau bod porthladdoedd yn gwneud y cyfraniad economaidd mwyaf posibl i'n cymunedau.


"Dw i'n hynod falch o'r cyfle i ddarparu cyllid ac i siarad yn nerbyniad Grŵp Porthladdoedd Cymru yn ystod wythnos Morgludiant Rhyngwladol Llundain. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle i atgyfnerthu'r berthynas gref sydd gennym eisoes â rhanddeiliaid yn y sector, yn y Llywodraeth ac mewn busnesau sy'n ddibynnol ar gysylltiadau cryf â phorthladdoedd."

Dywedodd Callum Couper, Cadeirydd Grŵp Porthladdoedd Cymru: 


"Mae porthladdoedd yng Nghymru yn trafod rhyw 55 miliwn tunnell o gargo bob blwyddyn, sy'n fwy na 10% o fasnach y DU, ac maen nhw'n rhan hanfodol o'r seilwaith sy'n cefnogi'r sectorau ynni, gweithgynhyrchu, adeiladu, mwyngloddio, amaethyddol a manwerthu − yng Nghymru ac ar lefel y DU. Mae porthladdoedd yn sbardun grymus sy'n hwyluso buddsoddiad a chyflogaeth, ac sydd hefyd yn cefnogi dulliau amgylcheddol gynaliadwy o gludo cargo, gan leihau allyriadau carbon.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers tro y cyfraniad sylweddol y mae porthladdoedd yn ei wneud i economi Cymru. Gyda'i gilydd, mae Grŵp Porthladdoedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Porthladdoedd Cymru yn barod i wynebu'r heriau ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau." 

Mae Grŵp Porthladdoedd Cymru yn cynnwys arweinwyr y rhan fwyaf o borthladdoedd Cymru. Mae'n cael ei gydgysylltu gan Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a Grŵp Porthladdoedd Mawr y DU, ac mae'n mynd ati'n rheolaidd i roi cyngor a gwybodaeth i Lywodraeth Cymru a chyrff allweddol sy'n gwneud penderfyniadau ar draws y sectorau cynllunio, trafnidiaeth a morol.