Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi croesawu cynhadledd niwclear ryngwladol fawr i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynhadledd Cadeiryddion y Pwll Niwclear yn digwydd bob tair blynedd ac fe'i cynhelir yn draddodiadol yn Llundain. Fodd bynnag, eleni penderfynodd y trefnwyr gynnal y gynhadledd yng Nghymru. 
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod swyddogaeth Pŵer Niwclear wrth ddefnyddio ynni carbon isel ac yn ymwybodol iawn o'r cyfleoedd economaidd enfawr i Gymru o'r sector pwysig hwn. Rydym yn gweithio'n galed i greu ein sylfaen sgiliau a datblygu capasiti ein cadwyni cyflenwi fel y gallwn fanteisio cymaint â phosib ar y cyfleoedd yn y sector, heddiw ac i'r dyfodol.
Dwi'n falch bod ein gwaith parhaus i greu capasiti a denu buddsoddiad yn cael ei gydnabod o fewn y diwydiant ac yn falch bod trefnwyr Cynhadledd Cadeiryddion y Pwll Niwclear wedi dewis Cymru fel eu lleoliad cyntaf y tu allan i Lundain."

Meddai Dr Tim Stone, Cadeirydd Nuclear Risk Insurers:
"O ystyried pwysigrwydd ynni niwclear i'r economi yng Nghymru, a'i hanes ar draws y rhanbarth, roedd yn addas iawn i gynnal Cynhadledd Cadeiryddion y Pwll Niwclear yng Nghymru eleni. Mae cryfder sgiliau, gwybodaeth ac arloesi yng Nghymru yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer datblygiad y wlad ond i ehangu'r sector yn fyd-eang."

Cynhelir Cynhadledd Ryngwladol Cadeiryddion y Pwll Niwclear rhwng 18fed a'r 22ain o Fehefin gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal yn y Celtic Manor ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Caiff ei drefnu gan y Nuclear Risks Insurers Ltd sy'n gweithredu fel asiant tanysgrifennu o fewn y farchnad yswiriant ar gyfer popeth sy'n ymwneud ag yswiriant niwclear.