Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi lansio porthol newydd a ddatblygwyd i helpu busnesau Cymru i baratoi ar gyfer Brexit ac i ymateb i newidiadau a heriau’r dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Porthol Brexit newydd Busnes Cymru wedi'i ddylunio i roi'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf i gwmnïau yng Nghymru ar amrywiaeth o faterion pwysig gan gynnwys masnachu rhyngwladol a chynllunio’r gweithlu.

Mae hefyd yn cynnwys offeryn diagnostig sy'n helpu busnesau nodi pa mor barod ydynt ar gyfer Brexit, ac yn argymell camau y dylent eu cymryd i wella eu cydnerthedd. Mae hefyd yn eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol.

Mae'r Porthol Brexit newydd yn ategu'r cyngor a'r cyfarwyddyd sydd wedi'u darparu i gwmnïau Cymru gan Lywodraeth Cymru a Busnes Cymru ers y refferendwm.

Fe'i lluniwyd i fusnesau allu cael mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf a'r cymorth sydd eu hangen arnynt yn y ffordd hawsaf posibl.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

"Gydag ychydig dros chwe mis i fynd cyn inni ymadael â'r UE, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â Brexit yn golygu bod gan fusnesau yng Nghymru gwestiynau am y dyfodol sydd heb eu hateb o hyd.

Fel Ysgrifennydd yr Economi, rwy'n ymrwymedig i wneud popeth yn fy ngallu i helpu cwmnïau yng Nghymru i baratoi ar gyfer yr ansicrwydd a'r heriau sydd o'n blaenau. Yr wythnos hon, cyhoeddom y bydd miliynau ar gael ar gyfer y diwydiant Gweithgynhyrchu Uwch drwy Gronfa Bontio'r UE  i helpu rhai o'n cwmnïau mwyaf i wella sgiliau eu gweithlu ac i baratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit. Byddaf yn cyhoeddi maes o law fanylion am £1 miliwn pellach a fydd ar gael i helpu busnesau bach a chanolig i wneud yr un peth.

Mae Porthol Brexit Busnes Cymru yn enghraifft arall o'n hymagwedd rhagweithiol. Bydd yn ategu'r cyngor yr ydym wedi'i roi i fusnesau ers y refferendwm ac yn rhoi mynediad i'r cymorth a'r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnynt yn y ffordd hawsaf posibl.

Gyda chyngor ar allforio, cynllunio'r gweithlu, llunio strategaethau, arloesedd, cyllid a rheoli pobl, mae’r Porthol yn adnodd ymarferol a chynhwysfawr a fydd yn hefyd yn ddolen i’r wybodaeth y bydd Llywodraeth y DU yn ei rhannu os na fydd cytundeb. Hwn fyddai'r senario gwaethaf i fusnesau Cymru ac rydym yn annog Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i'w osgoi.

Mae'n adeg heriol ond rwy'n gobeithio y bydd Porthol Brexit wir yn helpu busnesau wrth iddynt ymgymryd â'r heriau yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf".

Wrth siarad am lansio'r Porthol, dywedodd Ben Francis, Cadeirydd Polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru:

"Bydd y Porthol newydd yn allweddol i helpu busnesau bach a chanolig i ymdopi â Brexit.

Bydd yn eu galluogi i ddod o hyd i gyngor ac i gadw golwg ar gyflwr eu busnes. Roedd ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dangos nad yw busnesau Cymru yn barod ar gyfer sefyllfa pe na bai cytundeb Brexit, gydag ond 15% o'r busnesau hynny wedi cymryd camau i baratoi ar gyfer y senario hwnnw. Felly, mae Porthol o'r fath sy'n helpu busnesau i ddeall sut y gallant baratoi ar gyfer y Brexit yn hollbwysig i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Rydym yn croesawu bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ein galwadau i lansio'r porthol, a byddwn yn annog busnesau bach a chanolig i fanteisio ar y cyfle i wella eu dealltwriaeth ynghylch effaith posibl Brexit ar eu busnes. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Busnes Cymru, y gwasanaethau cymorth busnes ehangach a'n cyd-sefydliadau busnes i gyhoeddi lansiad y Porthol fel bod cymaint â phosibl o fusnesau Cymru yn manteisio arno".

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu ap i helpu busnesau bwyd a diod Cymru i baratoi ar gyfer Brexit. Bydd yr ap hwn yn cael ei lansio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn hwyrach heddiw.

Wefan: https://businesswales.gov.wales/brexit/cy