Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi bod yr UE wedi neilltuo £2.7m i helpu busnesau cymdeithasol i dyfu a chreu swyddi cynaliadwy mewn cymunedau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers 2017, mae'r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol wedi bod yn cynnig grantiau a benthyciadau i fusnesau cymdeithasol yng Nghymru i'w helpu i gynyddu'u trosiant a'u heffaith ar gymunedau ac i greu swyddi newydd a chynaliadwy.

Mae cyhoeddiad Ysgrifennydd yr Economi yn cynnwys £1.7m gan yr UE i'w ychwanegu at y buddsoddiad cynharach ganddo o £1m. Bydd yn estyn y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol tan 2020.

Mae'n cynnwys hefyd £1m yn ychwanegol i'w neilltuo i Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol newydd. Bydd y gronfa'n rhoi'r modd i fusnesau cymdeithasol helpu i ddarparu gwasanaethau lleol fel llyfrgelloedd, swyddfeydd post a chanolfannau cymunedol gan gryfhau ac ychwanegu at fwrlwm cymunedau yng Nghymru. 
Wrth annerch seremoni Gwobrwyo Busnesau Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi £1.7m o arian yr UE ar gyfer estyn Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a £1m o arian yr UE ar gyfer Cronfa Datblygu Asedau Cymunedol newydd. 
"Gan adeiladu ar lwyddiant y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, bydd yr arian hwn yn helpu busnesau cymdeithasol i gynnal a chynyddu asedau'r gymuned, a rhoi hwb i nerth a lles trefi a phentrefi ledled Cymru yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."

Caiff y Gronfa Twf Busnes Cymdeithasol a’r Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol eu harwain gan dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:  
“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r cymorth ychwanegol, ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein gwaith llwyddiannus â’r Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol. Diolch i arian gan yr UE, gall y Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol lenwi bwlch pwysig o safbwynt y cyllid sydd ar gael a helpu i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru’n parhau’n hyfyw.”